Alltudiaeth myfyrwraig 'wedi'i hatal', medd AS
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor oedd yn wynebu cael ei halltudio i Sri Lanka wedi cael gwybod gan y Swyddfa Gartref y bydd yn cael aros yn y DU, yn ôl ei Haelod Seneddol.
Fe wnaeth AS Arfon, Hywel Williams gyhoeddi nos Lun y bydd Shiromini Satkunarajah, 20, yn cael ei rhyddhau o ganolfan gadw Yarls Wood.
Roedd Mr Williams wedi codi'r mater yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun.
Roedd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John Hughes, hefyd wedi galw ar y Swyddfa Gartref i ailystyried alltudio Ms Satkunarajah cyn iddi gwblhau ei hastudiaethau.
Cafodd Ms Satkunarajah, ei harestio ddydd Iau diwethaf ar ôl i'r awdurdodau wrthod ei chais am loches.
Mae dros 86,000 o bobl arwyddo deiseb i geisio ei hatal rhag cael ei hanfon yn ôl i'w mamwlad.
Ond dywedodd Mr Williams ar wefan Twitter nos Lun: "Falch o gyhoeddi heno fod fy etholwraig Shiromini Satkunarajah wedi ei rhyddhau ac ni fydd yn cael ei halltudio yfory. Diolch bawb am y gefnogaeth."
Yn gynharach, dywedodd Mr Williams ar lawr Tŷ'r Cyffredin: "Mae hi wedi dilyn y rheolau mewnfudo i'r llythyren, ond pan alwodd i orsaf heddlu Caernarfon yr wythnos ddiwethaf fe gafodd ei harestio, ei chadw yn y celloedd am dridiau a'i throsglwyddo i Yarls Wood.
"Rwyf wedi cysylltu â'r Gweinidog Mewnfudo sawl tro i ofyn iddo ddefnyddio doethineb yn yr achos yma, sydd â chefnogaeth eang gan gynnwys gan rai o aelodau'r Tŷ.
"Hyd yma nid yw wedi fy ateb. Mae hi i fod i adael yfory."
Cafodd Ms Satkunarajah, ei geni yn Sri Lanka ond mae wedi byw ym Mhrydain ers wyth mlynedd ac ar fin gorffen ei chwrs mewn peirianneg electroneg.
Cyn y datblygiadau diweddaraf, roedd disgwyl iddi adael Prydain fore Mawrth.
Cais wedi ei wrthod
Daeth Miss Satkunarajah i Brydain yn 2009 fel rhywun oedd yn dibynnu ar ei thad oedd wedi dod yma gyda fisa.
Fe wnaeth ei thad farw yn 2011 ond fe gafodd hi a'i mam aros tra ei bod yn cwblhau ei haddysg yn yr ysgol ac yn dechrau ei chwrs yn y brifysgol.
Cafodd ceisiadau pellach i aros eu gwrthod ond roedd ganddi hawl i aros tra roedd hi'n apelio.
Dydd Iau cafodd wybod bod ei chais am loches wedi ei wrthod.
Yn ôl Iestyn Pierce, pennaeth adran beirianneg Electronig a Thrydanol Prifysgol Bangor mae'n fyfyrwraig "abl iawn a diwyd" fyddai yn debygol o gael gradd dosbarth cyntaf.
"Pe byddai yn cael graddio byddai yn aelod gwerthfawr o'r gweithlu mewn pwnc lle mae prinder byd eang."