Ymchwiliad i drafod cynllun twnnel i'r M4 ger Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
M4 jam

Bydd yr ymchwiliad cyhoeddus i gynllun i adeiladu rhan newydd o'r M4 i'r de o Gasnewydd yn clywed am argymhelliad i leoli llwybr y ffordd newydd mewn twnnel.

Ar ddiwrnod cyntaf y gwrandawiad, dywedodd yr arolygydd Bill Wadrup y byddai'r ymchwiliad cyhoeddus yn clywed am 22 llwybr posib ar wahân i'r un y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio.

Mae'r llywodraeth eisiau adeiladu ffordd chwe lôn gwerth £1.1bn rhwng Magwyr a Chas-bach i ddelio â'r tagfeydd o gwmpas twneli Brynglas.

Ond mae grwpiau, gan gynnwys gwrthbleidiau, ymgyrchwyr amgylcheddol a phobl leol yn gwrthwynebu'r cynllun.

Twnnel hir?

Wrth agor yr ymchwiliad, dywedodd Mr Wadrup fod un cynllun yn cynnwys ystyried "suddo'r draffordd."

Dywedodd fod y cynllun yn un tebyg o ran maint i'r twnnel rhwng Lloegr a Ffrainc ac y byddai'n un o dwneli ffordd hiraf y byd.

Twnnel Laerdal yn Norwy - sy'n 15.23 milltir - yw'r hiraf ar hyn o bryd. Byddai twnnel yr M4 i'r de o Gasnewydd yn 15 milltir o hyd.

Disgrifiad o’r llun,

Gwrthwynebwyr cynllun Llywodraeth Cymru am ffordd yr M4 ger Casnewydd yn protestio cyn y gwrandawiad

Mae'r llywodraeth yn mynnu bod y prosiect yn hanfodol, gyda thagfeydd ar yr M4 yn atal twf yn yr economi.

Maen nhw'n dweud mai ffordd osgoi oedd yr M4 presennol i'r gogledd o Gasnewydd yn wreiddiol, ac nad yw'n "cyrraedd safonau traffyrdd modern".

Eu gobaith yw dechrau'r gwaith adeiladu yn 2018, ac agor y ffordd yn 2021.

Corstiroedd

Ond mae'r cynllun yn un dadleuon, ac mae'r arolygydd wedi derbyn 335 datganiad gwrthwynebiad, o'i gymharu â 192 datganiad o gefnogaeth.

Fe fyddai'r ffordd yn mynd drwy gorstiroedd hynafol Gwent, ble mae 'na fywyd gwyllt mewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Bu ymgyrchwyr yn protestio cyn agor yr ymchwiliad yng Nghasnewydd ddydd Mawrth.

Mae sefydliadau gan gynnwys Sustrans Cymru a Chyfeillion y Ddaear wedi arwyddo llythyr gwrthwynebu ac mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, hefyd wedi datgan ei gwrthwynebiad.