Atal cwmni awyrennau'r gwasanaeth rhwng Caerdydd a Môn
- Cyhoeddwyd
Mae awyrennau'r cwmni sy'n gyfrifol am deithiau rhwng Maes Awyr Caerdydd ac Ynys Môn wedi eu hatal rhag hedfan am resymau diogelwch.
Dywedodd yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) fod awyrennau Van Air - sydd wedi ei gofrestru yn y Weriniaeth Tsiec - wedi eu hatal yn dilyn digwyddiad ar Ynys Manaw yn ystod Storm Doris ddydd Iau diwethaf.
Mae Citywing, sy'n rheoli'r gwasanaeth rhwng y gogledd a'r de, wedi galw ar y cwmni Danaidd, North Flying, i gamu i'r bwlch ar fyr rybudd.
Mae hi dal yn bosib i deithwyr archebu tocynnau.
Dechreuodd y gwasanaeth awyr rhwng y de a'r gogledd yn 2007 ac mae'n cael tua £1m o gymhorthdal gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.
Cafodd Van Air y cytundeb i ddaparu'r gwasanaeth ym mis Chwefror 2016.
Ymchwiliad
Dywedodd llefarydd ar ran y CAA fod awdurdod hedfan sifil y Weriniaeth Tsiec, sy'n rheoleiddio Van Air, yn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd yr wythnos ddiwethaf.
"Bydd North Flying Airport Service o Ddenmarc yn gyfrifol am y gwasanaeth rhwng Caerdydd ac Ynys Môn," meddai llefarydd.
"Diogelwch ein teithwyr yw'n blaenoriaeth drwy'r amser, ac rydym yn cadw mewn cysylltiad â'r partïon perthnasol."
Dyma'r ail dro i gwmni awyr sy'n gyfrifol am y cysylltiad rhwng y de a'r gogledd i gael ei atal am resymau diogelwch.
Yn 2015, cafodd Links Air, a oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth ar y pryd, ei atal rhag hedfan.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r Awdurdod Hedfan Sifil wedi atal trwydded Van Air rhag hedfan yng ngofod awyr y Deyrnas Unedig.
"Mae Van Air wedi rhoi'r cwmni Danaidd, North Flying, yn gyfrifol am y gwasanaeth yn y byrdymor, er mwyn caniatáu i'r gwasanaeth barhau yn ôl ei arfer.
"Mae'r CAA yn ymwybodol o'r trefniant a dydyn nhw ddim wedi codi unrhyw bryderon gyda Llywodraeth Cymru."