Cwmni newydd i hedfan o Gaerdydd i Fôn

  • Cyhoeddwyd
Van AirFfynhonnell y llun, Van Air Europe

Mae'r cytundeb i redeg y gwasanaeth awyren rhwng Caerdydd ac Ynys Môn wedi cael ei roi i gwmni Van Air am saith mis.

Bydd y cwmni'n gweithio mewn partneriaeth gyda chwmni Citywing, fydd yn darparu gwasanaeth ticedi a marchnata - Citywing sydd wedi bod yn gweithredu'r gwasanaeth ers i gwmni Links Air dynnu nôl o redeg y gwasanaeth ar fyr rybudd.

Bydd y broses dendro i ganfod cwmni i redeg y gwasanaeth am dymor hirach yn dechrau yn fuan, ond fe ddywedodd Llywodraeth Cymru hefyd y bydd astudiaeth yn ystyried ehangu teithiau ar Ynys Môn.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod Van Air wedi bod yn llwyddiannus yn ennill y tendr i ddarparu Gwasanaeth Awyr Oddi mewn i Gymru am y saith mis nesaf cyn inni ddyfarnu'r contract hirdymor.

"Er gwaethaf rhai anawsterau yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gyflym i sicrhau nad oes toriad yn y gwasanaeth pwysig hwn.

"Byddwn yn cydweithio'n agos â'r cwmni newydd i hyrwyddo'r gwasanaeth awyr, sydd wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer y teithwyr yn y flwyddyn ddiwethaf. I gefnogi dyfodol hirdymor y gwasanaeth, comisiynwyd astudiaeth gennyf yn ddiweddar i edrych ar y cyfleoedd posibl i ehangu'r gweithgarwch ym Maes Awyr Ynys Môn.

"Rwy'n disgwyl derbyn adroddiad drafft o'r gwaith hwn o fewn y misoedd nesaf."