Colli mam a dod yn dad
- Cyhoeddwyd
Doedd 2016 ddim yn flwyddyn hawdd i'r dramodydd Daf James. Ym mis Ionawr y llynedd bu farw ei fam. Ond deg diwrnod yn ddiweddarach clywodd gan asiantaeth fabwysiadu ei fod ef a'i bartner wedi eu cymeradwyo i fabwysiadu plant.
Yn y cyfnod hwnnw hefyd roedd Daf James wrthi'n gweithio ar ddrama gomisiwn i BBC Radio 4 a chafodd y trobwynt yn ei fywyd personol ddylanwad ar ei waith, meddai. Roedd gweithio ar ei ddrama ddogfen My Mother Taught Me How to Sing yn "gatharsis" i'r dramodydd ac yn help iddo ddelio gyda marwolaeth ei fam a'r profiad o ddod yn dad.
"Cafodd fy mam strôc ym mis Hydref 2015 a buodd hi farw y mis Ionawr wedyn. Roeddwn i'n gweithio ar ddrama am fabwysiadu yn y cyfnod yma, am ein bod ni'n mynd trwy'r broses honno ar y pryd.
"Ond unwaith i fy mam farw do'n i ddim eisiau neud lot o ddim byd i fod yn onest. Ar ôl trafod gyda'r cynhyrchydd fe wnaethon ni ystyried troi ogwydd y ddrama a ffocysu ar fy mam.
"I fi mae sgwennu wastad wedi bod yn ffordd o ddelio gyda pethe sy'n digwydd yn fy mywyd i ac o'n i'n meddwl bydde fe'n deyrnged i Mam."
Yn ogystal â delio gyda marwolaeth a mabwysiadu, mae My Mother Taught Me How to Sing yn olrhain plentyndod Daf yn y Bont-faen, cystadlu mewn Eisteddfodau'r Urdd a chwrdd â'i "arwr" Hywel Gwynfryn.
Fel rhan o'r gwaith ymchwil, daeth o hyd i dapiau casét ohono fe a'i chwaer yn blant bach yn cael gwersi canu gan eu mam ac mae rhannau o'r tapiau'n cael eu chwarae'n y ddrama. Roedd eu clywed nhw'n brofiad amhrisiadwy, meddai.
"Mae'r tapiau yma sydd â llais fy mam arnyn nhw yn archif o fy mhlentyndod i ac yn fy helpu i gofio - fi mor ddiolchgar eu bod nhw gyda fi. Ma' nhw'n amhrisiadwy nawr ac yn fwy gwerthfawr ers ei cholli. Ma' clywed llais eich mam yn siarad â chi nôl o'r gorffennol yn rhywbeth rili sbeshal."
Mewn galar eto
Yn ystod y cyfnod poenus o alaru, clywodd Daf a'i bartner y newyddion da eu bod am ddod yn rieni. Cawson nhw eu cymeradwyo gan asiantaeth fabwysiadu yn 2016 ac erbyn mis Hydref roedd Daf yn dad, a gyda'r llawenydd daeth cyfnod o alaru o'r newydd.
"Mae pawb yn dweud 'sdim byd yn gallu eich paratoi chi ar gyfer cael plant, a mae'n hollol wir! Mae'n ddi-baid! Mae'r newid byd yn hynod yn ogystal â'r effaith seicolegol. Gyda mabwysiadu mae'n wahanol achos roedd y plant yn ein cyrraedd ni gyda'u hunaniaeth yn barod. Roedden nhw wedi bod trwy brofiadau enfawr yn eu bywydau ac roedd dod aton ni yn brofiad enfawr i ni ac i'r plant. Mae'n rhaid i'r cariad dyfu'n raddol dros amser.
"Mae'r cyfrifoldeb yn enfawr ac mae'n rhaid i fi ddweud fe wnes i alaru eto ar ôl iddyn nhw gyrraedd. Mae gymaint o gwestiynau gen i ofyn i Mam a dwi ffili nawr ac o'n i'n ffeindio hwnna'n anodd. Es i deimlo'n reit isel yn ystod y cyfnod, achos y newid byd ond achos o'n i'n galaru ar yr un pryd. Dyw e ddim wedi bod yn rhwydd, ond mae'n mynd yn dda iawn, mae'r plant yn dod mlaen yn grêt."
Blwyddyn wedi ei marwolaeth, un cysur mawr i Daf ydy geiriau olaf ei fam iddo pan ddywedodd wrtho y byddai'n dad gwych i'w blant.
"Mae'r geiriau yna fel rhodd," meddai. "Yn y geirie 'na roedd hi'n 'neud beth wnaeth hi trwy fy mywyd sef rhoi hyder i fi mod i'n gallu cario 'mlaen."
Mae My MotherTaught Me How To Sing ar gael ar yr iPlayer tan 10 Mawrth.