AC 'wedi bygwth fy swydd', medd swyddog cyngor
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog Cyngor Caerdydd wedi dweud wrth dribiwnlys ei bod wedi cymryd sylwadau gan AC Plaid Cymru, Neil McEvoy fel bygythiad i'w swydd.
Mae Mr McEvoy wedi'i gyhuddo o dorri cod ymddygiad y cyngor wedi iddo fynd i'r llys i gefnogi tenant cyngor oedd yn wynebu cael ei gyrru o'i chartref yn 2015.
Dywedodd y swyddog, Deborah Carter, wrth y gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd bod Mr McEvoy wedi dweud: "Alla i ddim aros nes Mai 2017 pan fydd y cyngor yn cael ei ailstrwythuro."
Mae Mr McEvoy, sydd hefyd yn gynghorydd gyda'r awdurdod, yn dweud mai cymhelliad gwleidyddol yw sail yr honiad yn ei erbyn.
'Tipyn o sioc'
Mae Mr McEvoy wedi'i gyhuddo o dorri cod ymddygiad y cyngor wrth wneud y sylwadau wedi iddo fynd i'r llys i gefnogi tenant cyngor oedd yn wynebu cael ei gyrru o'i chartref yn 2015.
Dywedodd Ms Carter, sy'n rheolwr tîm cyllid gyda'r cyngor, bod Mr McEvoy wedi gwneud y sylw wrth iddyn nhw adael gwrandawiad, ar ôl i gais tenant gael ei wrthod.
Roedd yn "sefyllfa eithaf dig", meddai.
Dywedodd bod Mr McEvoy yn cerdded o'i blaen, a'i fod wedi troi a gwneud y sylw am ailstrwythuro'r cyngor.
"Rwy'n credu ei fod wedi dweud hynny wrtha i," meddai Ms Carter.
"Cefais i dipyn o sioc, cael person yr oeddwn yn ystyried fel fy nghyflogwr yn siarad fel yna gyda mi."
Ychwanegodd: "Fe wnes i gymryd hynny i olygu efallai y byddai bygythiad i'r gwaith rwy'n ei wneud yn y cyngor yn y dyfodol pe bai'n dod i rym."
Mr McEvoy yw arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor, sy'n credu bod angen ailstrwythuro uwch-reolwyr yr awdurdod.
Wrth gael ei holi yn y gwrandawiad ddydd Iau, fe ddywedodd ei fod wedi siarad am "ailstrwythuro'r cyngor", ond bod hyn yn cyfeirio at bolisi ei blaid o wneud toriadau o £1m i gyflogau uwch reolwyr Cyngor Caerdydd.
Ychwanegodd na fyddai'r fath doriadau wedi effeitho ar rywun oedd ar lefel Ms Carter, a'i fod yn siarad gyda'i etholwr ar y pryd mewn ymgais i dawelu ei hofnau am y dyfodol.
Fe wadodd fod ei ymddygiad gyfystyr a bwlio neu fygwth.
Pan ofynnwyd iddo a oedd wedi dwyn anfri ar rôl cynghorydd, dywedodd Mr McEvoy ei fod wedi codi gwerth ei waith fel cynghorydd am ei fod wedi sefyll i fyny "ar ran rhywun oedd yn fregus iawn" mewn gwrandawiad i drafod hel y tenant o'i chartref.
Ychwanegodd fod y sefyllfa bresennol yn "ffordd o wleidydda drwy gwyno".
Pan gafodd ei holi gan gwnsler yr ombwdsmon yn ddiweddarach, cafodd ei rybuddio gan gadeirydd y panel ei fod yn "aflonyddu" ar y gwrandawiad, ac yn peidio ateb y cwestiynnau oedd yn cael eu gofyn.
'Cynghorydd cydwybodol'
Dywedodd cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones: "Mae Neil McEvoy yn gynghorydd cydwybodol sy'n gweithio'n galed ac sydd wedi ymgyrchu ers tro yn erbyn treth stafell wely annheg sy'n cosbi'r tlawd a'r mwyaf bregus galetaf.
"Polisi Plaid Cymru yw y dylai cynghorau yng Nghymru weithio i leddfu effaith y dreth drwy wahardd taflu tenantiaid allan oherwydd y dreth stafell wely.
"Rhaid i gyfiawnder naturiol gael ei weld yn cael ei weithredu mewn ffordd agored, dryloyw a theg, a dylai tystion ar ran yr amddiffyniad gael yr hawl i gael eu galw."
Mae'r etholiadau cyngor nesaf ym mis Mai eleni.
Pe bai'r panel yn dyfarnu yn erbyn Mr McEvoy, fe allai wynebu cael ei wahardd o fod yn gynghorydd am hyd at flwyddyn, neu ei anghymhwyso am hyd at bum mlynedd.