Carcharu tri o Wynedd am gadw gwastraff yn anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Mae tri pherchennog cwmni sgipiau o Borthmadog wedi eu carcharu am gadw gwastraff mewn modd anghyfreithlon.
Cafodd Patricia Mary Gaffey, Michael John Gaffey a Joseph Benedict Gaffey o gwmni Porthmadog Skip Hire eu carcharu am 10 mis yr un ar ôl pledio'n euog i'r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Roedd y tri wedi cadw gwastraff mewn modd oedd yn debygol o achosi niwed i iechyd a llygredd i'r amgylchedd.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod y cwmni yn cadw llawer mwy o wastraff ar ei iard yn Ystâd Ddiwydiannol Penamser na'r hyn oedd wedi'i nodi ar eu trwydded amgylcheddol.
Roedd y cwmni yn cael cadw 5,000 tunnell o wastraff ar y safle pob blwyddyn, ar yr amod ei fod yn cael ei gadw mewn mannau addas.
Ond fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) amcangyfrif ei fod yn cadw 7,800 tunnell o wastraff, ac nad oedd yn cael ei storio'n gywir.
Dywedodd CNC bod y gwastraff yn berygl sylweddol i iechyd a'r amgylchedd, yn enwedig pe bai'n achosi tân.
'Pob cyfle i gydymffurfio'
Er i'r cwmni gael eu herlyn am fethu cydymffurfio â rhybudd cyfreithiol gan CNC i leihau'r gwastraff ar y safle, fe wnaeth y troseddu barhau, gan arwain at ail erlyniad llwyddiannus yn eu herbyn.
Dywedodd rheolwr gweithredoedd CNC, Dylan Williams yn dilyn yr achos: "Rydyn ni wastad yn ceisio gweithio gyda busnesau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded.
"Ond mewn achosion fel hyn, ble mae busnes wedi cael pob cyfle i gydymffurfio ond yn methu gwneud hynny, mae'n rhaid i ni weithredu'n gyfreithiol i sicrhau diogelwch yr amgylchedd lleol, y gymuned a gweithredwyr cyfreithlon."