Rhybudd am brinder deintyddion mewn ardaloedd gwledig

  • Cyhoeddwyd
Deintyddfa
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 4,000 o gleifion ar lyfrau Mervinian House yn Nolgellau

Mae cyfarwyddwr clinigol un o ddarparwyr gofal deintyddol mwya' Ewrop wedi dweud fod 'na brinder deintyddion mewn rhannau o ardaloedd gwledig Cymru ble mae swyddi hir dymor yn parhau i fod yn wag dros gyfnod sylweddol.

Roedd Steve Williams o gwmni My Dentist yn siarad â rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru am ei bryderon, wrth i unig ddeintyddfa'r Gwasanaeth Iechyd yn Nolgellau gyhoeddi y bydd yn cau am gyfnod ddiwedd y mis.

Dros y ddegawd ddiwethaf mae nifer y deintyddfeydd yng Nghymru wedi gostwng tua 19%.

Ond yn ystod yr un cyfnod mae nifer y deintyddion wedi cynyddu, ac mae nifer y deintyddion y pen hefyd wedi codi.

Colli gwasanaeth

Yn ôl y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig mae nifer y deintyddefydd yng Nghymru wedi gostwng o 517 yn 2005/06 i 419 erbyn 2014/15.

Ond mae'r ffigyrau swyddogol yn dangos cynnydd o bron i 330 o ddeintyddion yn ystod yr un cyfnod, gyda chleifion yn fwy tebygol bellach o ddefnyddio deintyddfeydd mwy o faint.

Daw hyn i'r amlwg wrth i dros 4,000 o gleifion yn ardal Dolgellau glywed y byddant yn colli eu gwasanaeth deintyddol presennol wrth i ddeintyddfa Mervinian House gyhoeddi ei bod yn cau ddiwedd y mis.

Mae gan y ddeintyddfa 4,443 o gleifion gyda dau aelod staff llawn amser, ond bydd yn cau ddiwedd y mis oherwydd prinder deintyddion.

Mae deintyddfa arall yn y dref, ond Mervinian yw'r unig un sy'n cynnig triniaeth ar y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni MyDentist, sy'n cynnal y gwasanaeth, eu bod wedi bod yn chwilio am ddeintydd ers dros ddwy flynedd.

'Ceisio recriwtio'

Mae'n bosib y bydd yn rhaid i rai cleifion deithio i Borthmadog neu ymhellach er mwyn derbyn triniaeth ar y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd cyfarwyddwr y ddeintyddfa, Steve Williams: "Mae yna brinder deintyddion mewn rhannau o gefn gwlad Cymru ac mae swyddi yn wag dros gyfnod hir.

"Rydym wedi ceisio yn aflwyddiannus i recriwtio deintydd dros gyfnod o ddwy flynedd, ac yn anffodus ni allwn barhau i gynnal gwasanaeth yn Neintyddfa Merivian House."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd pobl yn gorfod teithio i ardaloedd eraill ar gyfer triniaeth, medd Delwyn Evans

Dywedodd dirprwy Faer Dolgellau, Delwyn Evans, ei fod o'n bryderus am gleifion bregus.

"Os 'dyn nhw'n cau'r ddeintyddfa bydd yna dros 4,000 yn methu cael deintydd a 'ma hyn yn bryder i'r ardal," meddai.

"Bydd pobl yn gorfod chwilio am rywle arall - Penrhyndeudraeth, Porthmadog, Trallwng - a rhaid i ni gofio di'r rhan fwyaf methu teithio oherwydd does yna ddim trafnidiaeth [gyhoeddus] a bydd hyn yn effeithio pobl fregus, henoed a'r anabl ac allan nhw ddim trafeilio 50 milltir bob ffordd."

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn bwriadu "ail-gomisiynu gwasanaeth deintyddol yn yr ardal mor fuan â phosib".

"Ond mae'n debygol y bydd yna fwlch rhwng y dyddiad cau a'r cyfnod sy'n ei gymryd i dendro a sefydlu gwasanaeth newydd," meddai llefarydd.

Dros dro

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn gwneud trefniadau dros dro ar gyfer y gwasanaeth nes bod gwasanaeth parhaol yn ei le.

Bydd hyn yn cynnwys cefnogaeth gan ddeintyddfeydd eraill, a gwasanaeth y tu hwnt i oriau fydd yn cael ei gynnal yn Ysbyty Cymunedol Dolgellau ar gyfer cleifion sydd angen triniaeth frys.

"Dylai cleifion sydd angen triniaeth frys ar ôl i'r ddeintyddfa gau, neu cyn eu bod wedi cofrestru gyda deintyddfa arall, gysylltu â NHS Direct Cymru ar 0845 46 47," meddai'r llefarydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dolgellau, fel nifer o ardaloedd gwledig, wedi'i chael hi'n anodd denu deintyddion newydd

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Pan fydd deintydd yn penderfynu torri ar y gwaith y mae'n ei wneud i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), neu'n rhoi'r gorau iddo'n llwyr, mae'r bwrdd iechyd yn cadw'r cyllid cysylltiedig i'w ddefnyddio i ail-gomisiynu'r gwasanaeth.

"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwahodd ceisiadau gan gontractwyr deintyddol i helpu sicrhau bod gwasanaethau'r GIG ar gael yn yr ardal.

"Rydyn ni'n disgwyl i'r bwrdd iechyd barhau i adolygu mynediad at wasanaethau deintyddol gofal sylfaenol y GIG drwy'r targedau sydd wedi'u pennu yn ei Gynllun Gweithredol ar gyfer 2016-17."