'Diffyg amrywiaeth' yn y diwydiant actio yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Alun Saunders a Mark Flanagan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Saunders (chw) a Mark Flanagan (dde) yn credu bod angen gwneud ymdrech i gynnwys unigolion o gefndiroedd gwahanol

Mae angen mwy o gydraddoldeb yn y byd actio yng Nghymru, yn ôl dau ffigwr amlwg yn y diwydiant.

Mae'r dramodydd Alun Saunders o'r farn bod angen gwneud mwy i ddenu pobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig i'r diwydiant, tra bod yr actor Mark Flanagan yn credu mai prinder pobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol ydy'r broblem.

Daw'r sylwadau mewn blog gan y ddau i adran Cylchgrawn BBC Cymru Fyw.

Gofynnodd Alun Saunders: "Wrth i blant a phobl ifanc nad sy'n groenwyn fynd i'r afael â chynnyrch theatr a theledu iaith Gymraeg, ym mhle mae'r modelau rôl?

"Ym mhle maen nhw'n gweld eu hunain wedi'u cynrychioli?

"Mae'r talent yno… Ond ry'n ni'n colli'r talent prin i waith tu allan i Gymru oherwydd diffyg cyfleoedd."

'Cyfrifoldeb moesol'

Mae'r actor Mark Flanagan - sydd wedi ymddangos mewn cyfresi fel 35 Diwrnod a Pobol y Cwm - yn credu bod angen gwneud mwy i adlewyrchu'r amrywiaeth cymdeithasol.

"Yn fy marn i, mae cyfrifoldeb moesol i sicrhau bod cyfansoddiad ein diwydiannau celfyddydol yn adlewyrchiad teg o gymdeithas," meddai.

"Mae'n rhaid i ni wneud ymdrech gydwybodol i gynnwys unigolion o bob math o gefndiroedd, a sylwi ar y rôl mae braint yn chwarae i atgyfnerthu'r anghydraddoldeb 'da ni'n ei weld.

"Os 'da ni am gydlynu fel cenedl, mae'n bwysig ein bod yn adrodd hanesion o safbwyntiau gwahanol er mwyn creu dealltwriaeth," meddai.

"Yn fy marn i, dyma rôl bwysicaf y celfyddydau - glynu cymdeithas at ei gilydd."