Llygredd aer yn 'argyfwng' iechyd cyhoeddus yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Hafodyrynys

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod llygredd aer yn fwy o bryder na gordewdra a lefelau yfed alcohol.

Ar raglen BBC Cymru Week in Week Out nos Fawrth mae'r corff yn disgrifio'r sefyllfa fel "argyfwng iechyd cyhoeddus", ac mai ysmygu yw'r unig broblem sy'n fwy o flaenoriaeth.

Maen nhw hefyd yn dweud bod angen mynd i'r afael â'r broblem ar unwaith.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i leihau allyriadau a gwella ansawdd yr aer ar draws Cymru.

Pryniant gorfodol

Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llygredd awyr yn achosi'r hyn sy'n gyfystyr i 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, sy'n 6% o'r holl farwolaethau.

Dywed Huw Brunt o Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth y rhaglen: "Fel i ni gyd yn gwybod ysmygu mwy na thebyg yw'r flaenoriaeth i iechyd y cyhoedd, mae llygredd aer yn siwr o fod yn ail i hynny.

"Os chi'n son am gordewdra, diffyg ymarfer corff ac alcohol, mae nhw'n dod wedyn."

Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl ysmygu, llygredd aer yw'r peryg mwyaf i iechyd pobl Cymru, meddai Huw Brunt

Mae Week in Week Out yn rhoi sylw i un o'r strydoedd mwya' llygredig yn y DU y tu allan i Lundain - Ffordd Hafodyrynys yng Nghrymlyn.

Mae'r Undeb Ewropeaidd yn nodi bod angen i lygredd awyr godi i lefel benodol 18 o weithiau cyn mynd uwchben y lefelau cyfreithiol.

Mae'r lefelau llygredd ar Ffordd Hafodyrynys wedi codi uwchben y lefel 57 gwaith yn barod eleni.

Mae dros hanner perchnogion tai sydd ar ochr y stryd sydd wedi ei heffeithio waethaf wedi galw ar y cyngor i brynu a dinistrio eu cartrefi gan bod y traffig cynddrwg.

'Carcharorion'

Mae Neil a Dawn Howells yn byw ar y stryd. Dywedodd Mr Howells: "Da ni wedi byw yma ers bron i 40 mlynedd, ac mae'r traffig yn gwaethygu bob blwyddyn. Dyw e ddim yn joc bellach.

"Dwi am fynd o ma, ond sut allai fynd? Fyddai methu cael morgais arall fy oed i. Rwy'n gobeithio y gwnawn nhw chwalu nhw a rhoi rhywle arall i ni fynd."

Mae Mrs Howells yn dioddef o glefyd rhwystrol cronig ar yr ysgyfaint, ac mae'n dweud bod y llygredd yn achosi trafferth wrth anadlu.

"Does dim ansawdd bywyd pan chi'n ymladd i gael eich anadl er mwyn cael mynd allan. Ambell waith i ni'n teimlo fel carcharorion yma, ac yn methu mynd mas."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dawn Howells: "Ambell waith i ni'n teimlo fel carcharorion yma, ac yn methu mynd allan"

Mae llygredd aer gan fwyaf yn cael ei achosi gan y cynnydd mawr yn nifer yr injanau diesel ar ffyrdd y DU, wedi i'r dreth ar geir diesel gael ei leihau yn 2001.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i fesur lefelau llygredd ar ffyrdd lle mae pobl yn treulio amser ger traffig trwm.

Os yw'r ffordd yn un brysur, mae dyletswydd i ddatgan ei fod yn Ardal Rheoli Ansawdd Awyr, sy'n golygu monitro cyson ac ystyried cynlluniau i weithredu ar hynny. Mae 41 o'r ardaloedd yma ar draws Cymru.

Cynllun gweithredol

Mae Mr Brunt yn dweud bod effaith y llygredd aer ar iechyd pobl yn gallu amrywio.

"Yn y tymor byr, y llygaid, trwyn a'r gwddf sy'n cael eu heffeithio," meddai.

"Yn y tymor hir mae'r canlyniadau yn fwy difrifol - ar y galon, yr ysgyfaint ac mae yna risg uwch o ddatblygu canser a symptomau a chyflyrau eraill.

"Plant a'r henoed, a rhai sydd a salwch cronig yn barod fydd y rhai mwyaf bregus."

Mae gan Deanna Hardwick ddau o blant ac yn poeni am eu hiechyd.

"Mae A-J wedi cael anadlwr er mwyn ei helpu i anadlu... dwi am iddo fod yn iach, yn cael mynd allan i chwarae heb ymladd am ei anadl.

"Dwi'n siwr y bydd pobl yn dweud pam i chi'n byw yno a chael plant, ond dyma ein cartref, ddylen ni ddim fod yn gorfod dewis rhwng cael teulu a lle i fyw, fe ddylech chi gael teulu iach ble bynnag chi'n byw."

Fe wnaeth llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili "gydnabod bod yna broblem yn y safle hwn yn sgil sawl ffactor allweddol".

"Mae'n ffordd strategol brysur, sy'n cludo nifer uchel o gerbydau bob diwrnod, ac mae'r ffordd serth a'r daearyddiaeth leol yn ychwanegu at y llygredd aer. I ni'n deall pryderon y preswylwyr ac yn gweithio gyda'r gymuned er mwyn datblygu cynllun gweithredu.

"Bydd y cynllun yn ystyried sawl dewis er mwyn ceisio mynd i'r afael gyda'r broblem yn y dyfodol."

Ystyried opsiynau

Mae Week in Week Out yn deall bod y cynllun o bryniant gorfodol ar 23 o gartrefi sydd agosaf at y ffordd yn un o nifer o opsiynau dan sylw ond dyw Cyngor Caerffili ddim yn cadarnhau hyn. Bydd y cynlluniau yn cael eu trafod gyda'r bobl leol mewn cyfarfod ddydd Iau, 9 Mawrth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i leihau allyriadau a gwella ansawdd yr aer ar draws Cymru. Ychwanegwyd ei bod yn y broses o ystyried ymateb i ymgynghoriad diweddar ar leihau llygredd ac y bydd ymateb y Llywodraeth yn cael ei gyhoeddi'n fuan.

"Bydd lleihau allyriadau a thaclo'r achosion yn gofyn am gydweithio ar draws llywodraethau yn ogystal â chefnogaeth y cyhoedd. Mae ganddon ni gyd rôl bwysig i chwarae os ydym ni am wella ansawdd yr aer ar gyfer y cenedlaethau i ddod."