Protest yn erbyn newid 'anghyfiawn' i bensiynau
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o fenywod o Gymru wedi teithio i Lundain i gymryd rhan mewn rali i brotestio yn erbyn y newidiadau i'r system bensiwn gwladol.
Mae'r newidiadau yma'n anghyfiawn yn ôl nifer o ASau Cymreig - yn eu plith Carolyn Harris, cadeirydd pwyllgor trawsbleidiol yn y senedd.
Mae Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe wedi codi pryderon gan ddweud bod miliynau o fenywod ym Mhrydain yn cael eu heffeithio ac yn ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.
"Mae nifer o'r menywod yma mewn sefyllfa anghenus, maen nhw'n mynd i fanciau bwyd, a'n colli eu cartrefi," meddai Carolyn Harris.
'Ddim yn bosib'
Tra bod 2.5m wedi eu heffeithio trwy'r Deyrnas Unedig, y gred yw bod 135,000 o fenywod yn wynebu'r newidiadau yng Nghymru.
Mae Elen Williams, 62 oed o Lanfrothen yn eu plith.
"Dwi'n colli chwe' mlynedd," meddai.
"Dwi 'di cael fy ngeni yn 1955 ac wedyn gai ddim mo' mhensiwn nes dwi'n 66. Does na'm posib gwneud o i fyny.
"Mae 'na rai wedi cael llythyrau yn 2013 os dwi'n cofio'n iawn, yn deud bod y newidiadau yma'n dŵad, ond weles i ddim llythyr.
"Ond faswn i byth wedi gallu hel y cyllid yna yn yr amser byr ma' nhw'n rhoi i rywun efo'r newid."
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud bod y penderfyniad i newid oedran y pensiwn gwladol wedi'i wneud dros ugain mlynedd, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng dynion a menywod.
Fydd dim newid, meddai'r llywodraeth, i'r trefniadau sydd mewn lle erbyn hyn.
Ond a hithau'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae cannoedd wedi teithio i Lundain o bob cwr o Gymru ddydd Mercher i gymryd rhan mewn rali i amlygu eu pryderon.
Un sy'n eu cefnogi yw Hywel Williams, AS Arfon: "Dwi'n meddwl bod o'n effeithio'n ddifrifol ar y merched yma, ac mewn gwirionedd, dy'n nhw ddim yn cael y sylw ddyle nhw gael, mae 'na anghyfiawnder.
"Tydi pobl ddim yn cymryd sylw o ferched yn eu 50au, mater o rym ydy hyn. Tasa fo wedi effeithio ar griw o ddynion, prif weithredwyr cwmnïau ag ati, 'sa'r llywodraeth 'di shifftio sw'n i'n meddwl.
"Ond oherwydd y grŵp yma ydi o, dy'n nhw ddim yn cael y sylw dyledus ac mae hynny'n anghyfiawn yn fy marn i."
'Ddim yn gwrando'
"Dwi'n credu bod yna gam-wahaniaethu yma," ychwanegodd.
"Mae'r system wedi bod yn cam-wahaniaethu o'u plaid nhw, doedden nhw ddim yn gorfod gweithio cyn hired â dynion, ond ffordd arall mae hi rŵan ynte, dy'n nhw heb gal y rhybudd ddylen nhw fod wedi cael.
"Maen nhw am golli allan yn sylweddol yn ariannol, ac yng nghanol hynny i gyd 'di o ddim fel bod y llywodraeth a phobl gyda grym yn gwrando arnyn nhw, ac mae hynny'n ei wneud o'n waeth yn fy marn i."
Fe gododd yr oedran ymddeol i fenywod o 60 i 65 yn sgil Deddf Pensiynau 1995.
Ond yn 2011, penderfynodd y llywodraeth godi'r oedran pensiwn ar raddfa gyflymach - gyda rhai gafodd eu geni rhwng Ebrill 1951 a 1960 yn gorfod aros tan eu bod nhw'n o leiaf 65 oed.