Cadarnhau canfod corff Sandie Bowen ger cronfa ddŵr
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn dweud fod profion DNA yn cadarnhau mai corff Sandie Bowen gafodd ei ganfod ger cronfa ddŵr yng Nghoed Gwent ddechrau'r mis.
Cafodd yr heddlu alwad gan aelodau o'r cyhoedd ar 1 Chwefror, wedi i weddillion dynol gael eu canfod yno.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal a chafodd samplau DNA eu cymryd o'r esgyrn, sy'n cadarnhau mai corff Ms Bowen ydyw.
Fe ddiflannodd Mrs Bowen, 53 oed, o'i chartref yn Llaneuddogwy, Sir Fynwy ym mis Awst 1997.
Ym 1998, cafodd ei gŵr, Michael Raymond Bowen ei ddedfrydu i oes o garchar ar ôl ei gael yn euog o'i llofruddio.
Mae teulu Mrs Bowen wedi cael gwybod ac mae swyddogion arbenigol yn cynnig cymorth iddyn nhw. Mewn datganiad, dywedodd merch Mrs Bowen, Anita Giles:
"Rwyf yn falch o dderbyn cadarnhad mae fy mam yw hi, mae 20 mlynedd yn amser hir i alaru. Gallwn gau'r bennod yma a'i gosod mewn hedd. Mae hyn yn profi ein bod angen Cyfraith Helen i atal llofruddwyr rhag cael eu rhyddhau os nad ydynt yn dweud lle mae corff. Fe fyddai Bowen yn dal yn y carchar os byddai Cyfraith Helen yn bodoli."