Goroeswr hîl-laddiad o Rwanda yn trafod ei brofiadau

  • Cyhoeddwyd
Rwanda
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eric Murangwa ei ddal yng nghanol trafferthion Rwanda yn 1994

Bu pêl-droediwr gafodd ei achub rhag hil-laddiad yn Rwanda yn cymryd rhan mewn digwyddiad pêl-droed rhyng-ddiwylliannol yn ne Cymru ddydd Sadwrn.

Mae Eric Murangwa o Rwanda wedi ffurfio tîm ar gyfer y gystadleuaeth 'Gyda'n gilydd yn gryfach' ym Mhontypridd, sy'n rhan o benwythnos llawn gweithgareddau sydd wedi cael ei drefnu gan Eglwys Dewi Sant yn y dref.

Yn ogystal â chwarae gyda chyd-chwaraewyr achubodd ei fywyd yn ystod y rhyfel cartref yn Rwanda yn y 1990au, roedd Mr Murangwa hefyd yn dangos ffilm am sut mae pêl-droed wedi bod yn gymorth iddo.

Roedd Mr Murangwa yn gyn-gapten tîm rhyngwladol Rwanda cyn iddo sefydlu prosiect 'Pêl-droed ar gyfer gobaith, heddwch ac undeb' (FHPU), sy'n annog chwaraewyr ifanc i gefnu ar niwed ac anoddefgarwch yn Rwanda.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar faes Rygbi Pontypridd

'Cryfach gyda'i gilydd'

Dywedodd un o'r trefnwyr, y Parchedig Phill Wall: "Mae stori Eric yn symbol pwerus o sut gallai chwarae pêl-droed helpu i oroesi casineb a rhaniad."

Bwriad y digwyddiad yw dathlu amrywiaeth diwylliant Cymru a'r syniad fod pawb o ba bynnag gefndir yn 'gryfach gyda'i gilydd.'

Digwyddodd yr hil-laddiad yn Rwanda yng nghanolbarth Affrica rhwng Ebrill a Mehefin 1994. Roedd amcangyfrif bod tua 800,000 o bobl wedi cael eu lladd yn y cyfnod ble roedd aelodau o lywodraeth Hutu yn brwydro yn erbyn poblogaeth y Tutsi.

Ychwanegodd y Parch Wall: "Mae neges Eric o gydraddoldeb yn berthnasol i ni yma yng Nghymru heddiw ble mae pobl o gefndiroedd gwahanol yn pryderu ac yn ansicr ynglŷn â'i dyfodol."