Dyn wedi'i drywanu mewn parc yng Nghaerdydd

Dywedodd yr heddlu bod yr ymosodiad wedi digwydd yng nghaeau Llandaf am tua 05:30 fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio wedi i ddyn gael ei drywanu mewn parc cyhoeddus yng Nghaerdydd.
Dywedodd y llu bod yr ymosodiad wedi digwydd yng nghaeau Llandaf am tua 05:30 fore Llun.
Mae dyn 55 oed yn parhau yn yr ysbyty ond nid yw ei anafiadau yn peryglu bywyd.
Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Bob Chambers o Heddlu De Cymru: "Yn ddealladwy, bydd y gymuned leol a defnyddwyr y parc yn bryderus am yr hyn sydd wedi digwydd.
"Mae hwn yn ddigwyddiad ynysig ac nid ydym yn gwybod beth oedd y cymhelliad ar hyn o bryd."

Dywedodd Heddlu'r De bod yr ymosodiad wedi digwydd yn yr ardal uchod
Ychwanegodd: "Mae ymholiadau helaeth yn parhau a bydd mwy o bresenoldeb heddlu yn yr ardal tra byddwn yn sefydlu beth oedd amgylchiadau'r digwyddiad hwn.
"Mae cefnogaeth y gymuned yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr, ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon i gysylltu â'r heddlu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.