Syr Dave Brailsford 'ddim am ymddiswyddo' o Team Sky
- Cyhoeddwyd
Mae Syr Dave Brailsford wedi dweud na fydd yn ymddiswyddo fel pennaeth Team Sky dros y 'pecyn dirgel' gafodd ei roi i Bradley Wiggins.
Mae'r tîm seiclo wedi bod dan y lach am fethu â darparu cofnodion i brofi mai moddion cyfreithiol oedd yn y pecyn meddygol gafodd ei gludo i'w prif feiciwr yn ras Criterium du Dauphine yn 2011.
Fe gyfaddefodd Team Sky bod "camgymeriadau wedi eu gwneud", ond maen nhw wedi gwadu torri rheolau gwrth-gyffuriau.
"Dwi'n fodlon yn fy hun ac mae gen i hyder yn fy nhîm," meddai Brailsford, gafodd ei fagu yn Neiniolen, Gwynedd.
Cefnogaeth
Ddydd Llun fe wnaeth sawl un o feicwyr y tîm, gan gynnwys y Cymro Geraint Thomas, drydar eu cefnogaeth i Brailsford - ond doedd Chris Froome, sydd wedi ennill y Tour de France deirgwaith gyda nhw, ddim yn eu mysg.
Mae UK Anti-Doping ar hyn o bryd yn ycmchwilio i'r pecyn gafodd ei dderbyn gan Dr Richard Freeman, cyn-feddyg gyda Team Sky wnaeth dynnu nôl o ymddangos gerbron pwyllgor dethol yn San Steffan i drafod y mater wythnos diwethaf.
Dywedodd Brailsford ei fod wedi siarad â Froome a'u bod wedi cael "sgwrs dda", ond wnaeth o ddim ymhelaethu ymhellach.
"Rydw i'n meddwl am beth sy'n dda i'r tîm a beth sy'n gywir. Wrth gwrs nad ydw i'n cuddio," meddai.