Gwerthu cynllun llong danfor o siop elusen yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Bydd cynlluniau llong danfor o gyfnod y Rhyfel Oer gafodd eu darganfod mewn siop elusen yng Ngwynedd yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant ddydd Llun.
Daeth staff yn siop Barnardo's ym Mhorthmadog o hyd i'r ddogfen oedd yn dangos manylion hen long danfor gwerth £200m, yr HMS Trafalgar.
Dywedodd staff fod y ddogfen wedi ei chuddio mewn cês dillad oedd wedi ei roi i'r siop yn ddienw ac yn llawn llyfrau.
Ond rhwng gorchudd mewnol a chlawr y cês roedd cynlluniau gan y Llynges yn dangos manylion HMS Trafalgar.
Er bod darganfyddiadau anarferol yn digwydd o dro i dro mewn siop elusennau, pan gafodd y cynllun ei ddarganfod fe sylweddolodd rheolwraig y siop, Stella Parker fod hwn yn achos anarferol dros ben.
"Pan nes i ddod o hyd iddyn nhw nes i feddwl, waw, mae hyn yn anhygoel," meddai.
"Allai ddim ond dychmygu efallai fod teulu rhywun oedd wedi marw wedi cynnig y cês dillad i'r elusen - dyna sy'n digwydd yn aml, falle nad oedden nhw'n gwybod fod y cynllun yno."
Mae'n bosib fod y cynllun wedi dod o Vickers, y cwmni oedd yn gyfrifol am adeiladu Trafalgar, neu o ddylunwyr y llong danfor.