Cyhoeddi llwybr Taith Baton Gemau'r Gymanwlad 2018

  • Cyhoeddwyd
Alex JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Alex Jones â'r baton ar hyd Afon Menai cyn Gemau'r Gymanwlad Glasgow yn 2014

A hithau'n Ddiwrnod y Gymanwlad ddydd Llun, mae'r Frenhines wedi lansio taith baton y Gymanwlad mewn seremoni ym Mhalas Buckingham.

Bydd y baton yn ymweld â Chymru ym mis Medi fel rhan o'i daith 388 diwrnod drwy'r Gymanwlad.

Mae disgwyl iddi deithio 230,000 cilomedr drwy holl wledydd a thiriogaethau'r Gymanwlad ar ei daith tuag at Gemau'r Gymanwlad Gold Coast 2018 yn Awstralia.

Dywedodd prif weithredwr Gemau'r Gymanwlad Cymru, Chris Jenkins eu bod yn "hynod falch o allu cyhoeddi'r llwybr".

"Mae Tîm Cymru yn dwyn ynghyd bawb sy'n cystadlu neu'n cefnogi'n hathletwyr i'w galluogi i berfformio hyd eithaf eu gallu yng Ngemau'r Gymanwlad.

"Bydd y daith gynhwysol hon yn rhoi cyfle i bawb sydd methu ddod allan i Gold Coast gael bod yn rhan o brofiad bythgofiadwy."

Ffynhonnell y llun, Tîm Cymru

Bydd y baton yn gadael Abertawe ar 5 Medi a theithio trwy Ben-y-bont ac Ynys y Barri, cyn cyrraedd ardal Tre-biwt yng Nghaerdydd.

Fe fydd ail ddiwrnod y daith yn ymlwybro o Gasnewydd i Bontypridd, cyn iddo wneud y daith hir o Aberhonddu i'r Wyddgrug y diwrnod canlynol.

Ar ddiwrnod olaf y baton yng Nghymru bydd yn teithio o Gastell Dolwyddelan, heibio i Ddolgellau, cyn gorffen ym Mhwllheli.

Gemau'r Gymanwlad Melbourne 2006 oedd y tro cyntaf i'r baton ymweld â phob cenedl a thiriogaeth yn y Gymanwlad, ac mae'r traddodiad wedi parhau ym mhob gemau ers hynny.

Dywedodd Chef de Mission Tîm Cymru ar gyfer gemau 2018, yr Athro Nicola Phillips: "Dydi hi ddim yn bosibl i bawb allu mynd draw i Gold Coast i gefnogi Cymru, felly drwy ddod â baton y Frenhines i gymunedau Cymru ein gobaith ydi ysbrydoli a sbarduno Cymry ledled y wlad i deimlo balchder yn ein hathletwyr."