Awyrennau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
CitywingFfynhonnell y llun, AirTeamImages

Mae'r hediadau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn wedi dod i ben ar ôl i'r cwmni sy'n rhedeg y gwasanaeth gael ei ddirwyn i ben.

Dywedodd cyfarwyddwyr Citywing eu bod wedi cymryd y penderfyniad wedi i'r cwmni oedd yn gweithredu'r teithiau, Van Air, gael ei hatal rhag hedfan am resymau diogelwch ddiwedd mis Chwefror.

Mae'r gwasanaeth, sydd wedi bod yn rhedeg ers 2007, yn derbyn £1.2m gan Lywodraeth Cymru pob blwyddyn.

Mae pob taith oedd wedi'u trefnu wedi cael eu canslo.

Atal Van Air

Roedd y gwasanaeth yn hedfan rhwng Caerdydd a'r Fali ar Ynys Môn o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd unrhyw docynnau ar gyfer yr awyrennau yn gymwys i'w defnyddio ar drenau o Gaerdydd ac o orsafoedd rhwng Bangor a Chaergybi.

Roedd Citywing hefyd yn rhedeg awyrennau rhwng Blackpool ac Ynys Manaw, ac o Faes Awyr Sir Gaerloyw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn gweithio gyda'r cwmni a'r meysydd awyr i leddfu'r effaith ar deithwyr.

Disgrifiad,

Stuart Cole, Athro Trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru, sy'n egluro'r heriau i'r gwasanaeth

Cafodd awyrennau Van Air - sydd wedi ei gofrestru yn y Weriniaeth Tsiec - eu hatal gan yr Awdurdod Hedfan Sifil ar 28 Chwefror yn dilyn digwyddiad ar Ynys Manaw yn ystod Storm Doris.

Fe wnaeth y cwmni Danaidd, North Flying, gamu i'r bwlch ar fyr rybudd, ond dywedodd Citywing eu bod wedi cael trafferth cynnal y gwasanaeth ers hynny.

'Anghynaladwy'

Dywedodd Citywing mewn datganiad: "Mae'r cwmni wedi ceisio cynnig gwasanaeth er gwneud colledion sylweddol, ond mae'r rhain yn anffodus wedi profi'n anghynaladwy yn fasnachol.

"Felly, gyda chalon drom, mae'r cyfarwyddwyr wedi gorfod cymryd y penderfyniad anodd i gau'r cwmni a'i ddirwyn i ben."

Ychwanegodd y cwmni eu bod yn ymddiheuro ar yr amhariad ar deithwyr ac yn diolch am y gefnogaeth dros y pedair blynedd diwethaf.