Lluniau: Cân i Gymru
- Cyhoeddwyd

Cadi Gwyn Edwards enillodd Cân i Gymru eleni gyda'i chân, 'Rhydd', ond beth arall ddigwyddodd yn ystod diwrnod Cân i Gymru? Darllenwch ymlaen...


Mae Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris wrth eu bodd yn cyflwyno'r rhaglen


Fedrwch chi weld y camera?


Mari a Geraint Lovgreen, cyfansoddwyr un o'r caneuon, yn llawer rhy nerfus i fwyta cyn y rhaglen...wel, jest un frechdan fach efallai?


Cystadleuwyr yn gwylio'n nerfus gefn llwyfan...


Tra bod eraill yn rhy brysur yn tynnu 'selfies'


"Felly beth ni fod gwneud nawr?"


Anodd credu, ond rhaid i Elin Fflur hyd yn oed gael colur cyn mynd ar y teli


Mae'r tensiwn yn dechrau dweud gefn llwyfan!


Bob blwyddyn mae o leiaf un aelod o fand Mega'n troi lan a cheisio perfformio! Drwy lwc, daliodd y staff diogelwch hwn a'i anfon o'r stiwdio


"Rwy mor nerfus, rwy hyd yn oed wedi anghofio beth i wneud gyda'r potel 'ma"


"Annwyl mam. Mae'n swyddogol! Fi wedi cyrraedd!"


Hir yw pob aros


Neil Williams yn difaru'r nodyn olaf hir yna?


"Ble mae'r golau?"


A dyma'r hyn mae pawb yn cystadlu amdano. Tlws Cân i Gymru...dim o gwbl i wneud gyda'r £3,000


Mae pawb yn enillwyr heno. (Ond bod Cadi Gwyn Edwards wedi ennill bach mwy!)