Yr iaith ar daith
- Cyhoeddwyd
'Da ni ddim yn meddwl ddwywaith pan fyddwn ni'n clywed y Gymraeg yn cael ei siarad o ddydd i ddydd neu phan y byddwn ni'n gweld arwyddion yn yr iaith, ond weithiau mae iaith y nefoedd i'w gweld neu ei chlywed mewn llefydd annisgwyl iawn...


Croeso cynnes i bawb... yn enwedig y Cymry!
Iechyd da!
Dyma i chi dŷ to gwellt traddodiadol ger Stockbridge, Hampshire, ond edrychwch yn fwy gofalus. Beth yw'r 'sgrifen yna ar y mur?
Ar ddechrau'r 19eg ganrif roedd porthmyn o Gymru yn hebrwng eu gwartheg i Lundain ac roedden nhw'n cael lloches yn yr hen dafarn hon ym mherfeddion Lloegr. Mae'r geiriau GWAIR-TYMHERUS-PORFA-FLASUS-CWRW-DA-A-GWAL-CYSURUS ar y talcen yn dystiolaeth bod y Cymry wedi cael croeso cynnes ar eu taith hir a blinedig.


'L' fawr 'ta 'l' fach?
Mae'n siŵr bod y rhan fwyaf ohonom ni erbyn hyn wedi llunio llu o gyfrineiriau ar gyfer cyfrifon banc, gwefannau ac yn y blaen. Yn 1968 doedd 'na fawr o alw amdanyn nhw ond roedd Barbarella yn ffilm sci-fi o flaen ei hamser.
Mewn un golygfa mae Dildano (David Hemmings) yn gorfod llunio cyfrinair i'r fyddin fedru cael mynediad i'w bencadlys. Mae'n amlwg ei fod o wedi cael gwersi i beidio defnyddio un rhy hawdd i'w gofio felly beth well na un gyda 74 o gymeriadau a digon o lythrennau dwbl?
Dyna i chi beth ydy cyfrinair cadarn!


Mae Owain Wyn Evans newydd ddeall bod Cymru wedi cael dau ddiwrnod sych yn olynnol
Sut 'dych chi?
Tref yn nhalaith Goa yn India ydy Benaulim a dyna ble'r aeth Owain Wyn Evans, dyn tywydd y BBC, ar ei wyliau'r llynedd i osgoi glaw Cymru. Roedd Owain wedi rhagweld y byddai'r hinsawdd yn ffafriol ond doedd o ddim wedi disgwyl clywed un o'r brodorion yn ei gyfarch yn y Gymraeg, dolen allanol...


Arwyddion yr amserau...
Mae arwyddion dwyieithog i'w gweld ar hyd a lled y wlad... ond yn Purbrook, Hampshire y cafodd yr arwydd yma ei weld gan Adele Mallows. Roedd Adele wrth ei bodd gweld yr arwydd gan ei bod hi'n dod yn wreiddiol o Abertawe. Ond nid felly John Woodhouse, colofnydd The Sentinel pan gafodd arwydd dwyieithog tebyg ei weld ar ffordd yn Eccleshall, Sir Stafford.
Dywedodd Woodhouse: "Mae gweld arwyddion ffordd Cymraeg yn Eccleshall yn beth bisâr iawn. Dydy'r dre' ddim yn adnabyddus am ei phoblogaeth fawr o siaradwyr Cymraeg. Mae 'na gwpl o ddynion sy'n swnio fel tasa nhw yn siarad Cymraeg ond fel arfer maen nhw wedi gor-yfed White Lightning tra'n gwylio Homes Under The Hammer."
'Falle bod angen arwydd arbennig ar Mr Woodehouse i'w rybuddio bod arwydd Cymraeg rownd y tro!
Mae'r awdurdodau dros y ffin yn egluro bod arwyddion dwyieithog i'w gweld tu hwnt i Gymru o dro i dro gan bod y contractwyr sy'n trwsio'r ffyrdd a'r is-adeiledd yn gweithio trwy'r DU gyfan a weithiau mae'n rhaid benthyca arwyddion sbâr o Gymru. Maen nhw'n gwbl gyfreithlon gan mai arwyddion dros-dro ydyn nhw.