Cyflwyno mesur enwau lleoedd hanesyddol yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Dafydd Gwynn

Yn y Cynulliad ddydd Mercher fe geisiodd yr AC Dr Dai Lloyd gael yr hawl i gyflwyno mesur ynglŷn â diogelu enwau lleoedd hanesyddol.

Cafodd ei gynnig ei ddewis ym mis Ionawr wrth i Aelodau Cynulliad gymryd rhan mewn pleidlais ar hap i ddatblygu syniad yn fesur Cynulliad.

Gofynnodd BBC Cymru Fyw i Dr Lloyd esbonio pam ei fod yn awyddus i ddeddfu ar y mater:

Diben y Bil yw diogelu enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru, er mwyn trio sicrhau na chaiff elfen allweddol o'n treftadaeth genedlaethol ei cholli - yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd eraill.

Mae nifer o esiamplau eisoes wedi derbyn cryn sylw yn y wasg - cais i newid enw Plas Glynllifon yng Ngwynedd i Wynnborn er enghraifft, newid Maes-llwch ym Mhowys i Foyles, Cwm Cneifion yn Eryri i Nameless Cwm, a fferm Faerdre Fach ger Llandysul, sydd nawr yn cael ei hysbysebu fel Happy Donkey Hill.

Yn aml, mae'n enwau lleoedd ni yn adlewyrchu topograffeg ardal, cysylltiad â pherson hanesyddol neu nodedig, cysylltiad â digwyddiadau yn y gorffennol, neu gyfnodau sydd wedi cael effaith ar hanes cymdeithasol-ddiwylliannol ac economaidd Cymru.

Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd yr enwau yma, ac mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, gafodd ei gynnig gan y llywodraeth, yn rhoi dyletswydd ar weinidogion Cymru i "lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd bwriad i newid enw Plas Glynllifon, ond mae tro pedol wedi bod yn dilyn ymateb chwyrn gan y cyhoedd

Rwy'n falch iawn o fod wedi gallu ymgynghori yn eang ar hyn, ac am y gefnogaeth gan fudiadau fel Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Mynyddoedd Pawb, Comisiynydd y Gymraeg ac amrywiaeth o unigolion, gan gynnwys academyddion ac arbenigwyr yn y maes.

Mae yna amrywiaeth o ffyrdd y gellid diogelu enwau lleoedd hanesyddol, yn cynnwys sicrhau bod perchnogion tir yn ymwybodol o arwyddocâd hanesyddol eu henwau lleoedd; cyflwyno gofyniad ar berchnogion tir neu gyrff cyhoeddus i ymgynghori â chorff cyhoeddus penodol (neu gyrff cyhoeddus penodol); systemau caniatâd neu wahardd newid enwau.

Does dim diogelwch ar gael i enwau lleoedd hanesyddol ar y foment, ond am y ffaith eu bod nhw'n bodoli, neu yn mynd i fodoli ar y rhestr genedlaethol sy'n cael ei ddatblygu dan Ddeddf 2016, felly fydde unrhyw gam yn gam ymlaen.

Rwy'n gobeithio edrych at wledydd eraill a sut y maen nhw'n mynd ati i warchod enwau hanesyddol.

Rwy'n awyddus i gyd-weithio gydag aelodau ar draws y Cynulliad i sicrhau ein bod ni'n gallu datblygu'r ddeddfwriaeth yma.