Deall y geiriau
- Cyhoeddwyd
'Sblachyd', 'llecheitian'. Wyddoch chi beth yw eu hystyr?
Geiriau tafodieithol ydyn nhw a dyna oedd dan sylw Aled Hughes yn ei raglen foreuol ar Radio Cymru ar 16 Mawrth.
Dechreuodd trafodaeth fywiog ar y cyfryngau cymdeithasol wedi i Aled sôn am y gair 'storgajio' y bore cynt.
Ar y rhaglen fore Iau eglurodd Angharad Fychan, aelod o dîm Geiriadur Prifysgol Cymru, dolen allanol beth oedd ystyr 'storgajio'.
"Yn y drafodaeth ar dudalen Iaith ar Facebook, dolen allanol roedd y geiriau 'styrgatshio' a 'storgatsio' yn cael eu crybwyll hefyd," meddai. "Wedi deall, amrywiadau ydyn nhw ar 'storgajio'. Mae'n air sy'n golygu llowcio, sglaffio neu gor-fwyta. Mae'n ymddangos bod y gair wedi ei gyfyngu i Sir Fôn.
"Mae'r enghraifft gynhara' sydd ganddom ni ohono fo yn dod o Llên a Llafar Môn (1963). Ond mae J.E. Caerwyn Williams yn dal yn ôl dipyn bach yn ei ddisgrifiad. 'Bwyta'n dda' yw ei ddisgrifiad o. Ond mae'n ymddangos bod yna elfen o or-fwyta mewn enghreifftiau mwy diweddar."
Wrth ymchwilio ymhellach i'r gair roedd gan Non Gwnhwyfar awgrym pellach i'w wneud am ystyr 'storgajio' ar Twitter:
A dyna ni wedi gwledda digon ar y gair 'storgajio', mi awn ni ymlaen i'r pwynt ble dechreuon ni... 'sblachyd'. Gwrandewch ar yr eglurhad:
Os yn brin o amser dyma eglurhad Geiriadur Prifysgol Cymru, dolen allanol.
A beth am 'llecheitian'?
Dyna chi wedi clywed gan yr arbenigwyr, ond faint wyddoch CHI am ystyr ambell i air tafodieithol?
Dyma gwis bach sydyn i ymarfer yr hen gelloedd bach llwyd 'na! (neu 'lwyt' mewn rhai ardaloedd!)
(Atebion ar y gwaelod)
1) Beth fyddwch chi yn ei wneud os yn 'trwcio' rhywbeth?
(a) Ei lapio mewn lleder
(b) Ei ddadorchuddio
(c) Ei gyfnewid am rhywbeth arall
2) Os ydych chi'n mynd i'r 'ciando' i ble fyddwch chi'n mynd?
(a) Y gwely
(b) Nôl blawd o'r felin
(c) Y sied odro
3) Ydych chi'n gwisgo 'syrcyn'? Beth yw e?
(a) Eich het
(b) Eich bronglwm
(c) Eich fest
4) Beth yw 'Bopa' yn y Wenwhyseg?
a) Anaf i'r benglin
b) Modryb
c) Bryn bychan
5) Beth yw 'slecs'?
(a) Gweddillion y cwt glo
(b) Matsys
(c) Darnau o bren oedd yn fframwaith i dŷ unnos
Atebion
1) c
2) a
3) c
4) b
5) a