Pryderon am gyllid gorsaf fysiau newydd Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf fysiau newydd Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o orsaf fysiau newydd Caerdydd

Nid yw'r cyllid ar gyfer gorsaf fysiau gwerth miliynau o bunnau yng Nghaerdydd wedi cael ei ddynodi, a hynny naw mis cyn y mae disgwyl iddi agor.

Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i drafod y cynlluniau ar gyfer yr orsaf fysiau gyda'r datblygwyr Rightacres.

Y disgwyl yw y bydd yn agor ym mis Rhagfyr 2017, ond dywedodd y cyngor mai "canllaw yn unig" oedd yr amserlen honno.

Dywedodd y cynghorydd Elizabeth Clark ei fod yn "warthus" nad oes llawer wedi ei wneud.

"Rwy'n poeni fwyfwy ynghylch a fydd Caerdydd fyth yn cael gorsaf fysiau priodol eto," meddai arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol ar y cyngor.

Trafod yn parhau

Cafodd y cyn-orsaf fysiau ei dymchwel i wneud lle i bencadlys newydd BBC Cymru.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio i'r orsaf fysiau newydd, yn ogystal ag unedau manwerthu a swyddfeydd gan gynghorwyr yn gynharach y mis hwn.

Dywedodd adroddiad ar gyfer y cyfarfod cabinet y cyngor ddydd Iau fod trafodaethau ar y gweill i gyrraedd cytundeb dros ariannu rhan y gyfnewidfa fysiau o'r datblygiad.

"Mae'r cyngor yn ceisio sicrhau y bydd y gyfnewidfa fysiau yn cael ei gwblhau o fewn y gyllideb ac amserlen bresennol, ac yn bwriadu gorffen y trafodaethau hyn mewn pryd i alluogi'r gwaith adeiladu i gychwyn yn syth ar ôl cwblhau'r gwaith o baratoi'r safle."