Cymru'n 100 o bobl
- Cyhoeddwyd
Petai poblogaeth Cymru ond yn 100 o bobl, faint fyddai'n gweithio, faint fyddai'n ddi-waith, faint fyddai'n Gymry a faint fyddai'n Saeson?
Wel, darllenwch ymlaen i ddarganfod y ffigyrau yn ôl Cyfrifiad 2011 ac ystadegau diweddaraf Y Swyddfa Ystadegau (ONS) a Llywodraeth Cymru.
Mae'n siŵr bydd ambell un yn agoriad llygad!
[Mae'r ffigyrau wedi eu talfyrru]
Mae 73 o'r cant wedi eu geni yng Nghymru, gyda mewnfudwyr yn ganran uchel. Mewnfudwyr o weddill y DU yw'r nifer uchaf o'r rhain yn hytrach nag o dramor.
Cafodd 21 o'r cant eu geni yn Lloegr ac un bach arall o wledydd eraill y DU. Pump sydd wedi eu geni y tu fas i Gymru a'r DU.
Mae siaradwyr Cymraeg yn leiafrif, ond faint o leiafrif?
Dim ond 14.5 o'r cant sydd yn rhugl ac yn medru siarad, darllen a 'sgrifennu yn y Gymraeg.
Mae 12 arall yn medru rhywfaint o Gymraeg - naill ai siarad yr iaith yn unig, neu'n medru siarad ond ddim darllen na 'sgrifennu, neu siarad a darllen ond ddim 'sgrifennu ayyb.
Ond does gan 73.5 o'r cant ddim unrhyw sgiliau Cymraeg o gwbl.
Felly, gan ein bod fel siaradwyr Cymraeg mor brin, ble ydyn ni gyd yn byw?
Mae nifer yn tybio bod y nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn byw yn y gogledd orllewin. Mewn gwirionedd petai dim ond cant o Gymry Cymraeg yng Nghymru, byddai 47 yn byw o fewn tua 50 milltir i Abertawe.
Ond yn ôl at y boblogaeth gyfan, ac o'r cant o bobl sydd yn byw yng Nghymru, mae 61 yn byw o fewn tua 50 milltir i Gaerdydd.
Petai Cymru yn cant o bobl rhwng 16 a 74 oed, yn ôl Cyfrifiad 2011, byddai 54 o'r cant yn gyflogedig ac yn gweithio'n llawn amser, tra byddai 21 yn gyflogedig ond yn gweithio'n rhan amser.
Nifer gymharol isel oedd yn hunan gyflogedig yn 2011, sef 13, a saith yn ddi-waith. Roedd pump yn fyfyrwyr llawn amser.
Felly, o'r boblogaeth gyfan, faint o bobl ifanc sydd yna o'i gymharu â phobl hŷn?
Mae 18 o'r cant o dan 16 oed, a'r bobl rhwng 16-64 oed (y bobl sydd mewn oedran gweithio arferol) yn cynrychioli 63.5 o bobl.
18.5 o bobl sydd yn 65 oed neu'n hŷn.
Pa mor bwysig yw crefydd? Ar sail Cyfrifiad 2011 dywedodd 32 o bobl nad oedd crefydd yn chwarae rhan yn eu bywydau. Doedd 7.5 o bobl ddim eisiau datgelu os oedden nhw'n arddel unrhyw grefydd yn arbennig.
Mae'r mwyafrif yn Gristnogion (58 o'r cant). Roedd pob crefydd arall yn cael ei chynrychioli gan 2.5 o bobl.
Dyna fel mae hi ar hyn o bryd felly.
Tybed os fydd pethau wedi newid erbyn y cyfrifiad nesaf?