Dramâu dwyieithog yn adlewyrchu 'realaeth' Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cyfarwyddwr Y Gwyll/Hinterland yn trafod dwyieithrwydd y byd ffilm a theledu

Dylai mwy o ddramâu o Gymru gael eu gwneud yn ddwyieithog, yn ôl cyfarwyddwr cyfres Y Gwyll/Hinterland.

Dywedodd Ed Thomas bod angen i raglenni teledu adlewyrchu y ffordd mae pobl yn siarad o ddydd i ddydd ledled y wlad.

"Fi'n meddwl bod dwyieithrwydd wedi gweithio'n grêt yn Y Gwyll/Hinterland," meddai wrth BBC Cymru.

"'Sdim lot o bobl ym Mhrydain - dim ond os ti'n mynd ar Netflix - [yn] cael y fersiwn hollol Saesneg.

"Y peth yw, mae'n adlewyrchu Cymru ry'n ni'n gyfarwydd â.

"Oedd BBC Cymru really moyn arbrofi, roedd Ceredigion yn ardal o' nhw moyn arbrofi gydag e, a gweld os oedd audience yna.

"Oedd e 'di really gweithio a fi'n credu neith mwy o bobl wneud hynny blwyddyn hyn - sy'n beth da."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Y Gwyll/Hinterland yn cael ei ffilmio yn ardal Aberystwyth

'Hunaniaeth bregus'

Bydd cyfres newydd o Y Gwyll/Hinterland - fersiwn ddwyieithog - yn dechrau darlledu ar 5 Ebrill ar BBC One Wales.

Cafodd y fersiwn Gymraeg ei darlledu ar S4C y llynedd.

"Ges i fy ngeni mewn ardal oedd yn siarad Cymraeg ond es i i ysgol Saesneg ac o'n i'n gyfforddus yn y ddwy iaith, yn newid o un i'r llall heb fod yn hunanymwybodol," ychwanegodd Mr Thomas.

"Ma' definitely lle i ddangos a dramateiddio realaeth fel ni'n siarad yng Nghymru.

"Mae'n hunaniaeth i'n ddwyieithog, nage trwy bod yn ddiog ond rhyw ffordd mae'n teimlo fel sgwrs go iawn.

"Hunaniaeth fregus sydd gyda ni'r hen Walia, yr hen Gymru, felly os yw dwyieithrwydd yn gwneud i hynny bara'n hirach, good thing."