Galw am uned salwch meddwl i famau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae angen adfer uned arbenigol iechyd meddwl i famau a babanod yng Nghymru, medd elusen Mind Cymru.
Ar hyn o bryd mae'n rhaid i famau sydd angen cymorth arbenigol deithio i Loegr i gael help ar ôl i'r unig uned yng Nghymru, oedd yng Nghaerdydd, gau yn 2013.
Mae unedau fel hyn yn cynnig gofal i fenywod sydd yn dioddef o gyflyrau iechyd meddwl fel iselder ôl-enedigol neu seicosis ar ôl geni babi.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi buddsoddi £1.5m mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
Y gred yw bod iselder ôl-enedigol yn effeithio ar un ymhob 10 menyw tra bod seicosis ar ôl geni babi yn gallu effeithio ar un ymhob 1,000 o enedigaethau.
Yn ôl Mind Cymru mae'r sefyllfa yn golygu bod mamau mewn rhai ardaloedd fel gorllewin Cymru yn gorfod cael help filltiroedd o'u cartrefi.
Dywedodd Rhiannon Hedge o'r elusen: "Mae'n gwneud sefyllfa sydd yn barod yn anodd yn galetach fyth.
"Tra bod cefnogaeth gymunedol yn bwysig, mae yna adegau pan mae claf angen gofal arbenigol mewn ysbyty ac ar yr adegau hynny dyw hi ddim yn addas i fenywod fod mor bell o'u teuluoedd.
"Er nad yw niferoedd uchel o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth yma mae'n annerbyniol bod y rhai sydd angen y gwasanaeth ddim yn gallu cael mynediad iddo."
Cafodd Charlotte Harding o Gaerdydd seicosis bedair blynedd yn ôl ar ôl i'w mab gael ei eni. Roedd yn rhaid i'w gŵr stopio gweithio am ddwy flynedd i edrych ar ôl y teulu.
"Mae cael uned i famau a babanod yng Nghymru yn holl bwysig i deuluoedd ond hyd yn oed yn fwy pwysig i famau sengl sydd yn gorfod wynebu problemau iechyd meddwl ar ben eu hunain."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod hi'n "holl bwysig" cefnogi menywod sydd gyda salwch meddwl cyn, yn ystod ac ar ôl y beichiogrwydd.
Mae'r llefarydd yn dweud bod y llywodraeth wedi buddsoddi £1.5m mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
"Mae'r GIG yn cofnodi bod mwy na 1,500 o fenywod wedi ei dargyfeirio i'r gwasanaethau newydd yn y gymuned ers Ebrill 2016 ac mi ydyn ni yn disgwyl i'r ffigyrau gynyddu yn sylweddol wrth i'r gwasanaethau gael eu sefydlu."
Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud ei bod yn ymdrechu i geisio dod o hyd i wely mor agos â phosib i'r cartref i fenywod sydd yn gorfod mynd i'r ysbyty i gael help a'i bod wedi comisiynu Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i edrych ar y ddarpariaeth sydd ar gael i gleifion.
Bydd y pwyllgor yn adrodd yn ôl i'r llywodraeth yn fuan.