Llafur Cymru i ddadlau o blaid "gwaith teg" i bawb
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai Cymru fod yn wlad lle mae gan bawb gyfle i gael swyddi da yn agos i'w cartrefi.
Dyna fydd un o negeseuon Carwyn Jones wrth iddo annerch ei blaid yn Llandudno ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl i'r Prif Weinidog ddweud bod gan bawb yr hawl i gael swydd dda "heb ecsploetiaeth neu dlodi."
Bydd arweinydd Prydeinig y blaid, Jeremy Corbyn, yn annerch y gynhadledd hefyd.
Yn ystod ei araith bydd Carwyn Jones yn cyhoeddi ei fod yn sefydlu Comisiwn Gwaith Teg ar y cyd â'r undebau llafur a grwpiau busnes,
Y bwriad, meddai, yw helpu adeiladu economi "lle mae rhagor o bobl yn medru cael mynediad at swyddi da."
Bydd Mr Jones yn dweud : "Dwi ddim yn ymddiheuro am roi swyddi a thwf yr economi yng nghalon ein cyllidebau diweddar yn y Cynulliad , a dwi ddim yn ymddiheuro am roi hynny yng nghalon ein safbwyntiau ar Brexit.
"Mae diweithdra yng Nghymru yn 4.4% ac mae hynny yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig. Mae hynny yn is na Llundain, yr Alban, a'r rhan fwyaf o ranbarthau Lloegr.
"Rydw i eisiau gwneud Cymru yn 'wlad gwaith teg' lle mae pawb yn medru cael swyddi gwell yn agosach at adre - yn datblygu sgiliau a gyrfaoedd.
"Gallwn ddisgwyl gwaith da sydd yn ychwanegu at fywydau pobl - heb ecsploetiaeth neu dlodi, lle gallwn ni adeiladu a rhannu cyfoeth.
Mae disgwyl i Carwyn Jones dderbyn teitl swyddogol newydd yn ystod y gynhadledd. Bydd yn derbyn y teitl "Arweinydd Llafur Cymru" yn ffurfiol - yn hytrach na "arweinydd grwp Llafur yn y Cynulliad."
Yn gynharach fe rybuddiodd Mr Jones fod ei blaid yn wynebu etholiadau lleol "anodd" ym Mis Mai.