Ysgrifennu yn help wedi colli Ned union flwyddyn yn ôl
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl Llên Plant Caerdydd, dywed un o'r llenorion a fydd yn cynnal sesiwn bod ysgrifennu yn lleddfu ychydig ar ei galar.
Cafodd Ned, mab yr awdures Sharon Marie Jones, ei ladd mewn damwain ffordd union flwyddyn yn ôl.
Meddai Sharon , awdures y llyfr Grace-Ella: Spells for Beginners: "Collais fy ail fab, Ned, ar y 25ain o Fawrth y llynedd.
"Dim ond pump oed oedd e. Roedd yn barod wrth ei fodd yn darllen, a byddwn yn darllen gyda fe bob nos. Mae hi wedi bod yn flwyddyn hunllefus, ond un peth sydd wedi fy helpu ychydig ydy ysgrifennu.
"Rwyf wedi ysgrifennu cerddi, a rhannu fy siwrne galar ar fy mlog. Dwi newydd ysgrifennu darn ar alar a fydd yn cael ei gyhoeddi mewn cyfrol eleni gan Y Lolfa.
"Ar hyn o bryd, dwi'n ysgrifennu ail lyfr Grace-Ella - dyna beth fyddai Ned eisiau a dyma rwy'n ceisio cadw ffocws arno. Mae'n rhaid i mi gredu y byddai Ned wedi bod yn falch iawn ohonof."
Roedd Ned, a oedd yn dod o Gapel Bangor, yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth.
"Dwi'n falch o gael bod yn rhan o Ŵyl Llên Plant Caerdydd, " meddai Sharon, "credaf bod darllen yn bwysig. Dwi wedi darllen gyda fy meibion ers oeddynt yn fabanod.
"Dwi wrth fy modd, yn benodol, gyda llyfrau lluniau. Un o'r ffefrynnau yma yw Hugless Douglas. Dydy fy mab hynaf ddim yn or-hoff o ddarllen ffuglen. Mae'n llawer gwell ganddo ddarllen llyfrau ffeithiol - yn enwedig os ydynt ar y pwnc Minecraft! Dwi'n mwynhau darllen 'hen' storiau iddynt - straeon fel Hansel a Gretel, Rumplestiltskin, Rapunzel ayb fel bod y storïau yma'n cael eu pasio lawr."
Eleni yw'r pumed tro i Ŵyl Llên Plant Caerdydd gael ei chynnal ac yr oedd yr ŵyl y llynedd yn fwy poblogaidd nag erioed.
Mae'r digwyddiadau dwyieithog yn cael eu cynnal ar ddau benwythnos gan ddechrau ar ddydd Sadwrn 25 Mawrth.
Dywed y trefnwyr bod yr ŵyl yn ddigwyddiad cyffrous ar gyfer y sawl sy'n hoff o lyfrau plant,
Ymhlith y rhai a fydd yn diddanu eleni fydd Anni Llŷn (Bardd Plant Cymru), Manon Steffan Ros, Huw Aaron a David Melling - creawdwr Hugless Douglas.
Hefyd bydd Lucy Owen, cyflwynydd Wales Today a'i gŵr Rhodri yn sôn am eu llyfr diweddar Bw-A-Bog yn y Parc - mae'r llyfr ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r elw a wneir o werthiant y llyfr yn mynd at Elusen Arch Noa.
Bydd Sharon Marie-Jones yn cynnal ei digwyddiad ddydd Sul rhwng 1 a 2 o'r gloch yng nghastell Caerdydd.