Diwedd cymorthdaliadau Ewropeaidd yw'r 'pryder mwyaf'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud mai ei "bryder mwyaf" yw y bydd cymorthdaliadau ffermio a'r economi yn diflannu wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae mannau tlotaf Cymru yn derbyn mwy na £2bn mewn cymorth economaidd o Frwsel rhwng 2014 a 2020, tra bod mwy na £250m yn cael ei roi i ffermwyr pob blwyddyn.
Dywedodd Mr Jones wrth ACau ddydd Mawrth ei bod yn bosib na fyddai unrhyw daliadau i gymryd lle arian yr UE ar ôl 2020.
Mae disgwyl i Theresa May ddechrau'r broses dwy flynedd o adael yr UE ddydd Mercher, drwy danio Erthygl 50.
'Ddim yn obeithiol'
"Dydw i ddim yn obeithiol y bydd unrhyw arian ar ôl 2020," meddai Mr Jones.
"Dydw i ddim yn bendant y bydd arian i gymryd lle Cronfeydd Strwythurol, a dydw i ddim yn bendant y bydd unrhyw arian i dalu cymorthdaliadau ffermio.
"Rydyn ni'n clywed yn fwy a mwy aml bod y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn broblem - fe glywon ni hynny gan Iain Duncan Smith - ac mae hynny'n golygu y gallai cymorthdaliadau ffermio ddiflannu.
"Dyna yw fy mhryder mwyaf. Rydyn ni'n gwybod beth y byddai hynny'n ei olygu i economi cefn gwlad Cymru."