Dan fy nghroen
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n llawn hyder wrth berfformio ei chân ei hun gyda miloedd yn ei gwylio yn fyw ar y teledu. Ond lai na blwyddyn ynghynt a fyddai Betsan Haf Evans o Bontarddulais wedi mentro cystadlu yn Cân i Gymru?
Am rai blynyddoedd cyn y gystadleuaeth ar 11 Mawrth mi roedd gan Betsan anhwylder ar ei chroen a oedd yn dryllio ei hyder fel cantores a ffotograffydd.
Bu Betsan yn sôn wrth Cymru Fyw am y frwydr hir i geisio darganfod beth oedd wrth wraidd y cyflwr a sut i'w wella:
Styfnig
Fe ddatblygodd y cyflwr yn raddol bach. Gynta' i gyd roedd 'na rash ar fy moch. Yna byddai'n diflannu ond ro'dd e'n lot gwaeth yn y ddwy flynedd ddiwetha'.
Ro'n i'n mynd i weld y meddyg yn rheolaidd ond o'dd ddim ateb pendant 'da nhw i'w roi.
Ro'n nhw'n dweud mai rosacea oedd e a doedd dim modd i'w wella dim ond ei reoli gyda antibotics a hufen ro'n nhw yn ei roi ar brescripsiwn.
Rwy'n eitha styfnig felly ro'n i'n benderfynol o ddarganfod ateb arall i'r broblem.
Ro'n i'n teimlo mod i'n llawer rhy ifanc i orfod trin clefyd y croen am weddill fy mywyd.
Mi fues i'n ymchwilio i feddygyniaethau naturiol a newid fy neiet yn llwyr. Ro'n i'n osgoi bwydydd twym fel cyris a nes i roi'r gorau i yfed coffi.
Ar ôl ymchwil pellach nes i roi'r gorau i gynnyrch llaeth a gluten a thorri mas siwgwr.
Wrth fwyta yn fwy iach roedd gen i fwy o egni ac yn teimlo'n llai bloated ond do'dd fy nghroen i ddim i weld yn gwella.
Es i wedyn i weld naturopathic nutrionist. Ges i fy rhoi ar ddeiet isel mewn asid.
Ro'dd yn rhaid i mi rannu fy hanes o dostrwydd a disgrifio fy symptomau cyn i fi gael cyngor i dorri mas cig coch a bwyta mwy o lysiau gwyrdd. Ro'dd yn rhaid peidio bwyta winwns a garlleg hefyd.
Roedd hwn yn detox eitha' sylweddol ond ar un adeg yn ystod y deiet fe waethygodd y croen. Roedd fy ngwyneb i'n goch, y croen yn sych ac yn inflamed ac ro'n i'n cael yr ysfa i'w grafu.
Colli hyder
Gan fy mod i'n canu mewn bandiau fe gollais fy hyder. Do'n ni ddim am feddwl bod y gynulleidfa yn gweld rhyw anghenfil ar y llwyfan.
Ro'n i'n gorfod pwsho fy hun i wneud fy ngwaith pob dydd fel ffotograffydd. Ro'n i wedi cael fy mwcio i wneud nifer o briodasau.
Mae pobl yn edrych ar eu gorau mewn priodas ac ro'n i'n meddwl "'dyn nhw ddim eisie fy ngweld i'n edrych fel hyn".
Ro'n i'n osgoi edrych i mewn i ddrychau a do'n i ddim eisie i blant gael ofn. Nes i dynnu fy hun o sefyllfaoedd cymdeithasol a jest cwato yn y tŷ.
Roedd hi'n frwydr rhyngof fi a fy nheulu a'n ffrindiau. Ro'n nhw'n poeni amdana i ac yn ceisio fy annog i fynd i weld meddyg eto. Ond ro'n i'n benderfynol o ddarganfod ateb i fy mhroblem.
Cefnogaeth Eleri
Trwy'r cyfan roedd fy ngwraig Eleri yn gefn mawr i mi.
Aethon ni i Tenerife ar ein gwyliau. Ro'n i'n sylwi bod yr haul wedi gwella fy nghroen i.
Do'dd hi ddim yn ymarferol symud dramor felly pan ddes i adre' mi nes i ddyfalbarhau gyda fy ymchwil ac fe ddes i ar draws fideos gan therapydd o'r enw Dr Axe ar YouTube.
Mi wnaeth e grybwyll cyflwr o'r enw leaky gut ac roedd y symptomau wnaeth e eu rhestru yn union run fath a fy rhai i.
Y ffordd medde fe o wella'r cyflwr oedd defnyddio kefir - cyfuniad o laeth gafr a gronynnau kefir. Mae kefir wedi ei ddefnyddio ers blynydde lawer yn ardal Mynyddoedd y Caucasus yn Asia.
Daeth hynny a mi i gysylltiad 'da fferm eifr ym Mrynhoffnant sy'n cynhyrchu kefir. Roedd rhywun wedi sôn wrtha'i mewn priodas am y ffordd roedd cwmni Chuckling Goat yn trin anhwylderau ar y croen ond wnes i ddim sylwi ar arwyddocâd hynny tan i mi siarad 'da nhw.
Dechreuais gymryd kefir ym mis Mai y llynedd. Mae'n bosib ei yfed fel diod sydd ag ansawdd tebyg i iogwrt neu mae e ar gael ar ffurf hufen i'w roi ar y croen neu ar ffurf sebon.
Roedd Shann, yr Americanes sy'n rhedeg y cwmni, wedi dweud wrtha'i na fydde dim gwelliant amlwg i'w weld yn ansawdd fy nghroen am rai misoedd. Ro'dd hi wastad, fel mantra, yn dweud wrtha'i "keep the faith".
Dyw kefir ddim yn blasu'n neis iawn chwaith. Mae e fel caws glas ac mae'n rhaid dod i arfer 'dag e. Rwy'n yfed 170ml bob dydd a nawr rwy'n ei grefu bob bore.
Y dyfodol yn gliriach
Beth mae kefir yn ei wneud yw rhoi good bugs nôl yn y corff. Mae Eleri erbyn hyn yn ei gymryd bob dydd hefyd. Roedd ganddi hi IBS, a mae hwnnw wedi gwella.
Bron i flwyddyn ers i mi ddechrau yfed kefir mae fy nghroen 98% yn glir. Rwy' wedi adennill fy hyder.
Yn rhannol roedd y gân 'Eleri' nes i ganu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni yn diolch i fy ngwraig am ei chefnogaeth trwy'r cyfnod anodd yna ble ro'n i'n brwydro am ateb i geisio gwella ansawdd fy nghroen.
Ro'dd e'n brofiad da ac fe wnaeth rhai aelodau o Kookamunga (y band rwy'n aelod ohono) ddod i fy nghefnogi i ar y noson er nad oedden nhw yn deall yr un gair!
Oherwydd Cân i Gymru maen nhw'n fwy awyddus i greu rhagor o gerddoriaeth Gymraeg.
Mae ganddom ni gig wedi ei threfnu ar gyfer dydd Sadwrn 'Steddfod yr Urdd a ry'n ni'n gigio yn rheolaidd yng Nghaerdydd a Bryste.