Diswyddo cadeirydd ac is-gadeirydd Chwaraeon Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd ac is-gadeirydd Chwaraeon Cymru wedi cael eu diswyddo'n barhaol gan Lywodraeth Cymru.
Fe gafodd Dr Paul Thomas ac Adele Baumgardt - ynghyd â gweddill bwrdd y corff - eu gwahardd o'u gwaith dros dro ym mis Tachwedd yn dilyn pryderon nad oedd y corff yn gweithredu'n effeithiol.
Roedd y ddau wedi'u gwahardd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i gwynion yn erbyn y ddau.
Cafodd gweddill y bwrdd ddychwelyd ym mis Chwefror eleni, a heddiw dywedodd y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus Rebecca Evans bod y berthynas y tu fewn i arweinyddiaeth bwrdd Chwaraeon Cymru "wedi'i chwalu ac nid oes modd ei adfer".
Mae Dr Thomas wedi dweud wrth BBC Cymru bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn "echyrdus" wrth ddelio gydag ef, a'i fod yn teimlo ei fod wedi cael ei "adael yn y gwynt" fel chwythwr chwiban oedd wedi amlygu materion oedd angen eu datrys o fewn y sefydliad.
'Troi cefn'
Dywedodd Paul Thomas ei fod wedi ei benodi i newid y ffordd y mae Chwaraeon Cymru'n gweithio ond na chafodd y gefnogaeth oedd ei angen gan Lywodraeth Cymru sydd wedi "troi ei chefn" arno.
"Sut maen nhw'n disgwyl denu pobl fel fi o'r gymuned fusnes i weithio gyda nhw os mai fel yma maen nhw'n trin pobl?", meddai.
Roedd hefyd wedi'i synnu a'i siomi nad oedd unrhyw un o Lywodraeth Cymru wedi cysylltu gydag e i ddweud wrtho ei fod yn cael ei ddiswyddo. Dywedodd Dr Thomas wrth BBC Cymru ei fod wedi clywed y newyddion wrth gael neges testun gan ffrind.
Dywedodd Rebecca Evans AC: "Fy nod uwchlaw popeth arall yw effeithiolrwydd Chwaraeon Cymru a'i gyfraniad i les y genedl drwy ei sylw i chwaraeon ac ymarfer corff, a dyna'r rheswm am fy mhenderfyniad.
"Rwyf wedi gofyn i'r cadeirydd dros dro, Lawrence Conway, i aros yn y swydd am weddill 2017 o leia', ac i fwrw 'mlaen gyda'r aelodau bwrdd sy'n weddill."
Pwrpas y corff, sy'n gwario tua £22m y flwyddyn, yw hyrwyddo chwaraeon ar lawr gwlad ac ar lefel elît, a dosrannu arian.
Dros y chwe mis diwethaf mae'r corff wedi bod yng nghanol cyfres o ddadleuon am waith y bwrdd a'r modd y mae'n rhoi cytundebau.
Ym mis Chwefror, dywedodd Ms Evans bod yr adolygiad o Chwaraeon Cymru wedi ei gwblhau, ond bod nifer o gwynion newydd am y bwrdd a'i aelodau wedi cael eu derbyn ar ôl hynny.
Mae BBC Cymru ar hyn o bryd yn herio penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio cyhoeddi'r adolygiad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac mae disgwyl penderfyniad am yr apêl yr wythnos nesaf.
Ymateb
Mae llefarydd ar ran Chwaraeon Cymru wedi dweud bod y cyfnod diweddar wedi bod yn "heriol" ond y byddai'r mudiad yn edrych i symud ymlaen wedi datganiad y gweinidog.
Dywedodd y llefarydd bod y gweinidog wedi dweud bod staff Chwaraeon Cymru wedi gwneud gwaith "arbennig" yn ystod y cyfnod, ac yn glir iawn bod y mudiad wedi ei "reoli'n dda" ac yn gweithredu'n llwyddiannus dan arweiniad cadeirydd dros dro.
"Mae Chwaraeon Cymru yn parhau i fod yn fudiad sydd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth, fel bod pobl dros Gymru yn cael y cyfle i fwynhau chwaraeon a bod yn actif, a chefnogi ein pencampwyr a rhai'r dyfodol."
Dywedodd Russell George AC, llefarydd Ceidwadwyr Cymru ar chwaraeon: "Dyw'r diswyddiadau yma ddim yn taflu goleuni am beth aeth mor bell o'i le gyda bwrdd Chwaraeon Cymru.
"Gydag Erthygl 50 yn cael ei danio, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi dewis diwrnod arbennig i gladdu newyddion drwg.
"Gan fod Chwaraeon Cymru'n derbyn dros £22m o arian cyhoeddus, ry'n ni'n haeddu llawer mwy o dryloywder gan Lywodraeth Cymru, ac fe fyddaf yn ysgrifennu atyn nhw gyda'r bwriad o ofyn am gyhoeddi adolygiad y cyn-gadeirydd."
Llefarydd Plaid Cymru ar chwaraeon a iechyd yw Rhun ap Iorwerth AC, a dywedodd: "Does dim amheuaeth fod hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i staff a'r holl bobl sy'n ymwneud â Chwaraeon Cymru.
"Mae cwestiynau difrifol i'w hateb gan y Gweinidog yn dilyn ei datganiad heddiw ar y broses recriwtio wreiddiol ac ar yr adolygiad sicrwydd gafodd ei gynnal. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog gynnal adolygiad o'r prosesau a chyhoeddi'r adolygiad sicrwydd.
"Byddaf hefyd yn gofyn am eglurhad gan y Gweinidog ar y materion a arweiniodd at chwalu'n llwyr y berthynas o fewn arweinyddiaeth bwrdd Chwaraeon Cymru a'r gefnogaeth y byddant yn ei roi nawr fydd yn galluogi Chwaraeon Cymru i symud ymlaen i'r dyfodol. "
Dywedodd llefarydd UKIP ar chwaraeon, Gareth Bennett AC: "Rwy'n gobeithio fod cyhoeddiad y gweinidog heddiw yn dod ag eglurdeb i bawb sy'n ymwneud â Chwaraeon Cymru, yn enwedig y staff a phawb sy'n elwa o chwaraeon elît a chymunedol.
"Rwy'n croesawu ymrwymiad y gweinidog i sicrhau effeithiolrwydd Chwaraeon Cymru, ond rwy'n yn edrych ymlaen i Lywodraeth Cymru'n cyhoeddi canlyniadau eu harolwg.
"Rhaid i ni gael hyder bod y swm sylweddol o arian cyhoeddus sydd wedi'i fuddsoddi yn Chwaraeon Cymru'n cael ei ddefnyddio'n gall, a bod unrhyw wersi o'r hanes anffodus yma'n cael eu dysgu."