Penodi cadeirydd cyntaf corff trethi Cymru
- Cyhoeddwyd
Kathryn Bishop fydd cadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru, y corff fydd yn gyfrifol am gasglu trethi yng Nghymru am y tro cyntaf ers 800 mlynedd.
Ddydd Iau, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford mai Ms Bishop fydd yn arwain y corff fydd yn casglu trethi pan fyddan nhw'n cael eu datganoli - yn flaenorol, treth stamp a threth tirlenwi oedd enwau'r trethi yma.
O dan y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), a basiwyd gan y Cynulliad ym mis Ebrill y llynedd, sefydlwyd trefniadau trethi datganoledig i Gymru.
Roedd y trefniadau hyn yn cynnwys sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru i gasglu a rheoli trethi datganoledig.
Bydd y corff yn dechrau gweithredu o fis Ebrill 2018.
Dros y pedair blynedd nesaf, bydd yr Awdurdod yn casglu mwy na £1bn o refeniw trethi.
Beirniadu lleoliad
Cafodd Llywodraeth Cymru ei beirniadu wedi iddyn nhw gyhoeddi mai yn Nhrefforest, Rhondda Cynon Taf, y bydd pencadlys y corff newydd.
Roedd rhai gwleidyddion yn eu cyhuddo o anwybyddu'r gogledd, gan fod son ar un adeg lleoli'r pencadlys yng Ngwynedd neu Conwy.
Wrth gadarnhau penodiad Ms Bishop dywedodd Mark Drakeford bod Kathryn Bishop yn "meddu ar gyfoeth o brofiadau a bydd ei gweledigaeth a'i gallu i arwain yn sicrhau cyfnod pontio di-drafferth wrth i Gymru fabwysiadu pwerau trethu".
Dywedodd Ms Bishop: "Dw i'n falch iawn o gael fy mhenodi'n gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, corff cyhoeddus newydd â swyddogaethau o bwys yng Nghymru.
"Dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm gweithredu a'r rhanddeiliaid."
Daw penodiad Ms Bishop fel cadeirydd yr Awdurdod ar ôl proses recriwtio dan reolaeth Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.
Cafodd ei phenodiad ei gymeradwyo gan bwyllgor cyllid y Cynulliad.
Mae gan Kathryn Bishop dros 30 mlynedd o brofiad o weithio mewn sefydliadau gan gynnwys Accenture, Allied Dunbar, Eagle Star, Zurich a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.
Ar hyn o bryd mae'n Gymrawd Cyswllt yn Ysgol Fusnes Saïd (Prifysgol Rhydychen) ac yn gyfarwyddwr mewn busnes ymgynghori.
Fe'i penodwyd yn Gomisiynydd y Gwasanaeth Sifil ym mis Ebrill 2012 a hi oedd Prif Gomisiynydd y Gwasanaeth Sifil rhwng mis Ebrill a mis Medi 2016.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2017