Gwrthod datganoli grym dros reilffyrdd i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Arriva

Ni ddylai'r rheolaeth a'r cyllid ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru gael ei ddatganoli, yn ôl Llywodraeth y DU.

Nol ym mis Ionawr, fe ddywedodd aelodau seneddol ar y Pwyllgor Materion Cymreig y byddai datganoli yn golygu y byddai cyfrifoldeb am y gwasanaeth yn dod yn fwy eglur i'r cyhoedd.

Mae ymateb Llywodraeth y DU, sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Gwener, yn dweud nad oedd yna "gonsensws gwleidyddol" yn bodoli yng Nghymru ar gyfer y syniad o ddatganoli rheolaeth.

Ond mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi galwadau am roi "ysgogiad" i gwmnïau er mwyn gwella profiadau teithwyr ar ôl i aelodau seneddol ddweud fod pobl wedi blino ar "hen drenau, a threnau gorlawn".

'Angen ar frys'

Fe wnaeth adroddiad gwreiddiol y Pwyllgor Materion Cymreig sôn fod yna "angen ar frys" am drenau newydd ar rwydwaith Cymru a'r Gororau.

Cafodd y fasnachfraint ar gyfer rheilffordd Cymru a'r Gororau ei rhoi i'r Awdurdod Rheilffyrdd Strategol 15 mlynedd yn ôl.

Ers hynny mae'r adroddiad yn dweud fod yna 'fethiant mawr' wedi bod wrth beidio rhoi ystyriaeth i dwf yn niferoedd teithwyr.

Gweinidogion Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu pwy fydd yn cael y fasnachfraint ar ôl 2018, gyda'r darparwyr presennol Arriva a thri chwmni arall eisoes wedi gwneud cais.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pedwar cwmni wedi gwneud cais am fasnachfraint Cymru a'r Gororau ar ôl 2018

'Dim consensws'

Yn eu hymateb i argymhellion y Pwyllgor Materion Cymreig fe wnaeth Llywodraeth y DU gytuno gyda'r rhan fwyaf o argymhellion, ond gan wrthod y syniad o drosglwyddo grym dros y rhwydwaith rheilffyrdd i Fae Caerdydd.

Gan gyfeirio at y cynigion datganoli yn 2015, wnaeth arwain at Ddeddf Cymru 2017, dywedodd llefarydd: "Fe wnaeth yr argymhelliad yma gael ei ystyried fel rhan o broses trafodaethau Dydd Gŵyl Dewi... ond doedd yna ddim consensws gwleidyddol i fynd ymhellach."

Ychwanegodd nad yw'r Llywodraeth yn bwriadu ail ystyried y pwnc gan ddweud y byddai'r Adran Drafnidiaeth yn parhau i "ymgynghori yn agos gyda Llywodraeth Cymru" ynglŷn â chynlluniau buddsoddi Network Rail.

Wrth ymateb i hynny dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, fod angen mwy o reolaeth dros y rhwydwaith yng Nghymru a bod angen cyllideb deg er mwyn gwella "cyflymdra, prydlondeb capaisti a diogelwch".

Dywedodd fod rheilffordd Cymru a'r Gororau yn cynrychioli 6% o rwydwaith trenau'r DU ond ei fod ond wedi derbyn 1% o gyllid Network Rail o ran gwariant ar welliannau ers sefydlu'r cwmni yn 2011.