Miliwn o Gymry 'ddim yn ymarfer corff', meddai'r BHF
- Cyhoeddwyd
Mae 'na fwy na miliwn o bobl yng Nghymru sydd ddim yn ymarfer corff, yn ôl adroddiad newydd.
Mae'r ddogfen yn dangos bod yna 600,000 o ferched a 430,000 o ddynion sydd ddim yn cyrraedd targedau'r llywodraeth ar isafswm ymarfer corff.
Yn ôl y British Heart Foundation (BHF), wnaeth gynnal yr ymchwil, mae'r sefyllfa'n cynyddu'r risg o glefyd ar y galon a marwolaeth gynnar.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio i greu "mwy o gyfleoedd i sicrhau bod ymarfer corff yn rhan o batrwm bywyd pob un".
Merched yn ymarfer llai
Yn ôl yr ystadegau, mae merched 40% yn fwy tebygol fod yn anactif yn gorfforol na dynion yng Nghymru.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod 81% o'r bobl sydd wedi cael trawiad neu lawdriniaeth ar y galon ddim yn ymarfer corff yn y cyfnod cyn y digwyddiad.
Daw'r ddogfen wrth i'r BHF lansio her MyMarathon i annog pobl i geisio rhedeg marathon - 26.2 milltir - yn eu hamser eu hunain dros gyfnod o fis.
Dywedodd Dr Mike Knapton o'r elusen ei bod yn "gwbl hanfodol gwneud ymarfer corff yn haws a'i gwneud hi'n haws i bobl ei wneud os ydyn ni am leihau effaith salwch oherwydd diffyg ymarfer corff".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd gweithgarwch corfforol ac mae effaith diffyg ymarfer corff yn achos pryder ar draws y byd, nid yng Nghymru yn unig.
"Rydyn ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth, a gydag amrywiol bartneriaid, er mwyn creu mwy o gyfleoedd i sicrhau bod ymarfer corff yn rhan o batrwm bywyd pob un ohonom drwy ddeddfwriaeth, polisi a rhaglenni.
"Byddwn yn cyhoeddi strategaeth trawsbynciol 'Iach a Gweithgar' cyn hir."