Gemau'r Gymanwlad: 'Cymru eisiau torri record medalau'
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n gobeithio mai Gemau'r Gymanwlad yn Awstralia fydd y rhai mwyaf llwyddiannus iddyn nhw erioed dramor.
Mae'r gemau yn ninas Gold Coast yn dechrau ar 4 Ebrill 2018, a'r nod yw cael mwy na'r 25 medal gafodd y tîm yn Auckland yn 1990.
Yn ôl pennaeth y tîm, yr Athro Nicola Phillips, mae'n darged sydd yn bosib ei gwireddu.
"Rydyn ni eisiau mwy o fedalau nag ydyn ni erioed wedi cael mewn gemau tramor. Rydyn ni wedi cael canlyniadau da mewn cystadlaethau ers y cyfnod dewis," meddai.
"Rydych chi'n gallu gweld y perfformiadau'n gwella."
Barod am yr her
Bydd tua 150 o athletwyr o Gymru yn mynd i Queensland, o'i gymharu â'r 228 aeth i Glasgow yn 2014.
Mae hynny'n golygu y bydd hi'n anodd cyrraedd y record gafodd ei osod yn yr Alban, sef 36 medal.
Ond mae Nicola Phillips yn dweud y byddai 26 medal yn ganlyniad da.
"Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n dasg aruthrol, ond mae'r tîm yn barod am yr her," meddai.
Nicola Phillips oedd chef de mission tîm Cymru yn y Gemau Gymanwlad Ieuenctid yn Samoa yn 2015. Mae hefyd wedi gweithio mewn Gemau Olympaidd a rhai'r Gymanwlad, ac wedi chwarae rygbi a chodi pwysau ar lefel broffesiynol.
"Dw i'n meddwl ein bod ni'n mynd yno gyda thîm cryf. Chi ddim ond yn gorfod edrych ar sut mae'r cyrff llywodraethu cenedlaethol a Chwaraeon Cymru yn paratoi eu hathletwyr o'i gymharu gyda 10 neu 11 mlynedd yn ôl," ychwanegodd.
"Maen nhw'n cael gwell cefnogaeth, yn hyfforddi'n fwy deallus ac mae gyda ni nifer o bobl ifanc da yn datblygu."