Dyfed Edwards: 'Angen cwotâu amrywiaeth' er budd cynghorau
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor Gwynedd yn dweud bod angen ystyried cwotâu er mwyn sicrhau bod mwy o gynghorwyr benywaidd ac o gefndiroedd ethnig gwahanol yn y dyfodol.
Yn ôl Dyfed Edwards, sy'n rhoi'r gorau i'r swydd eleni, mae'r pwnc wedi ei drafod ers blynyddoedd ond does dim digon o newid wedi bod.
Daw'r alwad wrth i ymgyrchwyr rybuddio am "argyfwng amrywiaeth" mewn etholiadau lleol, lle mae llai na thraean o'r ymgeiswyr yn fenywaidd.
Yn ôl ffigyrau elusen Chwarae Teg ac Electoral Reform Society Cymru, 1,023 o'r 3,438 o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau lleol eleni sy'n ferched.
Ym Mlaenau Gwent ac Ynys Môn mae'r cyfraddau isaf o ymgeiswyr benywaidd - 17%, tra bod y gyfradd uchaf yng Nghastell-nedd Port Talbot - 36%.
Yn ôl Mr Edwards, mae angen i bleidiau "gymryd lein fwy cadarn a chael y nod o sicrhau 50%, er enghraifft, o ymgeiswyr yn ferched".
Ymgeiswyr benywaidd
Yn nhraean wardiau Gymru, does dim un ymgeisydd benywaidd;
Yn Sir Benfro, does dim ymgeiswyr benywaidd mewn 57% o'r wardiau, ac mae'r un peth yn wir am 55% o wardiau Gwynedd;
Llafur sydd â'r canran uchaf o ymgeiswyr benywaidd - 35%, a UKIP yr isaf - 18%;
Wedi'r etholiadau lleol diwethaf, 26% o gynghorwyr oedd yn ferched, 9% o arweinwyr oedd yn ferched.
Ffynhonnell: Chwarae Teg ac Electoral Reform Society Cymru
Ychwanegodd Mr Edwards bod polisi o'r fath wedi "sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein Cynulliad Cenedlaethol" ac efallai bod "angen i ni ystyried gweithredu polisi felly er budd llywodraeth leol".
"Os na allwn ni gyflawni'r nod heb ystyried cwotas mae'n rhaid cael polisi, mae'n rhaid cael rhywbeth cadarn sydd yn sicrhau bod newid yn digwydd," meddai.
"Allwch chi ddim jyst byw a gobeithio am wireddu rhywbeth. Mae rhyw bwynt yn dod lle 'dach chi'n goro d'eud 'reit mae rhaid i ni trigro'r polisi yma er mwyn sicrhau fod o'n digwydd'."
Er hynny, mae Mr Edwards yn pwysleisio'r angen i wella amodau gwaith i gynghorwyr er mwyn denu mwy o amrywiaeth i'r rôl.
Dywedodd Mr Edwards, sydd wedi bod yn gynghorydd ers 13 o flynyddoedd, bod anawsterau gwneud swydd arall ar yr un pryd a bod yn gynghorydd yn golygu bod llawer o bobl sydd wedi ymddeol yn ymgymryd â'r gwaith.
Ychwanegodd bod yr anawsterau yn gallu bod yn waeth i ferched.
"Yn sylfaenol, i ni sicrhau bod yna well cynrychiolaeth o ran llywodraeth leol, dwi'n meddwl bod rhaid creu gwell amodau wrth leihau'r niferoedd, ond gwneud y swyddi yn fwy atyniadol o ran y pecyn sydd yn cael ei gynnig a'r gefnogaeth sydd yn cael ei gynnig, sydd yn galluogi pobl, yn enwedig merched, i gael y cydbwysedd sydd ei angen."
Mwy o waith i'w wneud?
Mae Plaid Cymru wedi dweud bod ganddyn nhw "record gref o ran cydraddoldeb" a'i bod wedi gweld mwy o ymgeiswyr benywaidd a mwy o bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol yn ymuno gyda'r blaid.
Dywedodd llefarydd: "Credwn mai'r ffordd orau o gynyddu cynrychiolaeth menywod ac aelodau o gymunedau lleiafrifol yng ngwleidyddiaeth Cymru yw i fabwysiadu prosesau mentora effeithiol a gwneud modelau rôl mor hygyrch a gweledol a phosib - rhywbeth yr ydym yn falch mae ein harweinydd Leanne Wood wedi ei gyflawni yn barod."
Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig yw nad oes angen cwotâu: "Rydyn ni yn dewis ymgeiswyr ar sail gallu a pha mor addas ydyn nhw."
Yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae ymrwymiad "i wella amrywiaeth ein cynrychiolwyr etholedig", ac mae angen annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
"Yn hytrach na chyflwyno cwotâu dylem weithio'n agos gyda chymunedau i ddeall y rhwystrau maent yn eu hwynebu, edrych ar ymarferion a diwylliant cynghorau a chymryd camau rhagweithiol i gefnogi'r rheiny o amryw o gefndiroedd gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth."
Mae Llafur yn falch o'i record wrth gael gwell amrywiaeth o bobl i fod yn rhan o wleidyddiaeth.
Dywedodd llefarydd y blaid yng Nghymru: "Fe wnaeth Llafur arwain y ffordd o ran cynrychiolaeth menywod yng Nghymru gyda mwy o ferched yn ASau, ACau ac yn ymgeiswyr mewn cynghorau nag unrhyw blaid arall ac fe fyddwn ni yn parhau i wneud hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2017