Arolwg yn codi pryderon am lwyth gwaith athrawon
- Cyhoeddwyd
Mae un o bob tri athro ysgol yn ystyried gadael y proffesiwn, yn ôl casgliadau arolwg cenedlaethol o weithwyr ym myd addysg.
Mae'r Arolwg Cenedlaethol o'r Gweithlu Addysg yn awgrymu nad oedd dros 88% o'r athrawon gafodd eu holi yn credu eu bod yn gallu ymdopi â'r llwyth gwaith o fewn yr oriau cytundebol.
Dywedodd Plaid Cymru fod hyn yn "adlewyrchiad damniol" o Lywodraeth Cymru.
Ond dywedodd y Llywodraeth mai ond 14% o'r gweithlu oedd wedi cymryd rhan yn yr arolwg.
'Ystyried gadael'
Cafodd 10,408 o weithwyr yn y sector addysg eu holi. Roedd 5,115 o'r rheiny'n athrawon ysgol.
Awgrymodd yr arolwg fod 33.6% o athrawon ysgol yn ystyried gadael y proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf.
Dywedodd dros draean yr athrawon - 38.6% - nad oedden nhw'n gyfarwydd â chynnwys ac argymhellion adroddiad yr Athro Donaldson, sy'n amlinellu'r newidiadau i gwricwlwm Cymru.
Dywedodd athrawon llawn amser eu bod nhw'n aml yn gweithio 50.7 awr ar gyfartaledd yn ystod eu hwythnos waith.
Y llwyth gwaith oedd agwedd lleiaf boddhaol y proffesiwn i 78.1% o athrawon.
Roedd y gallu i reoli'r llwyth gwaith o fewn yr oriau cytundebol yn fater allweddol i 88.3% o athrawon, a oedd un ai'n cytuno'n gryf neu'n anghytuno'n gryf bod cyflawni hynny'n bosibl.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Llyr Gruffudd fod yr adroddiad yn "adlewyrchiad damniol o fethiant Llywodraeth Lafur i wneud dysgu'n broffesiwn deniadol i bobl yng Nghymru".
"Nid yn unig mae'r ffigyrau'n frawychus yn nhermau'r nifer sy'n methu ag ymdopi a'r llwyth gwaith - 88% - mae'r arolwg hefyd yn dangos yr effaith dinistriol y gallai'r methiant yma ei gael ar warchod lles staff yn y sector addysg yn gyffredinol."
Fodd bynnag, nododd y Llywodraeth mai un o'r casgliadau oedd fod 47% o athrawon eisiau parhau i ddatblygu eu sgiliau.
Mewn datganiad i Aelodau Cynulliad, dywedodd Kirsty Williams ei bod yn siomedig mai dim ond 14% o'r gweithlu (72,497) oedd wedi cymryd rhan yn yr arolwg.
"Does yna ddim un ateb i'r ystod eang o faterion a godwyd, a does yna ddim atebion hawdd", meddai.
"Mae'n amlwg bod yna nifer o gasgliadau positif, fel y mynediad i ddysgu proffesiynol a hyder yn nefnydd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
"Serch hynny, rhaid i ni fel llywodraeth dderbyn bod rhagor i'w wneud er mwyn sicrhau bod ein gweithlu'n teimlo bod ganddyn nhw'n gefnogaeth orau posib.
"Fel blaenoriaeth, dwi'n benderfynol o fynd i'r afael â materion hirdymor fel llwyth gwaith, a sicrhau fod gan athrawon y gofod a'r amser i ddysgu y gorau y gallan nhw, lleihau biwrocratiaeth ddiangen a sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch a Gweithwyr Cymorth Dysgu."
Yn ogystal ag athrawon ysgol, cafodd 961 o athrawon addysg bellach eu holi, ynghyd â 257 o weithwyr cefnogi addysg bellach, 1,306 o athrawon cyflenwi a 2,179 o weithwyr cefnogi dysgu ysgolion.