Cer i Greu: Cynnig mwy o gyfleoedd celf i bobl hŷn
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy penwythnos celfyddydol Cer i Greu mae arian ychwanegol ar gael i ddarparu cyfleoedd celfyddydol i breswylwyr cartrefi gofal ledled Cymru.
Mae Cer i Greu yn bartneriaeth rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, lle bydd artistiaid o bob oed yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chelfyddydol rhwng 7 a 9 Ebrill, wrth i'r penwythnos creadigol ddychwelyd ar gyfer ei ail flwyddyn.
Fe fydd sefydliadau diwylliannol a gwirfoddol, grwpiau a chymdeithasau yn cynnal digwyddiadau ar draws Cymru i ddathlu creadigrwydd y wlad.
Mae elusen Age Cymru wedi derbyn £350,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring i barhau i ddarparu prosiectau celfyddydol mewn cartrefi gofal, a hynny hyd at 2019.
Mae rhaglen cARTrefu yn anelu at wella mynediad i brofiadau celfyddydol o safon i bobl hŷn sy'n derbyn gofal preswyl.
Bydd artistiaid proffesiynol o bob math o gelfyddyd yn gweithio gyda phreswylwyr ar hyd a lled Cymru, gan gyflwyno cymysgedd o gelf draddodiadol a newydd i bobl nad ydynt efallai wedi cael y cyfle i brofi celf yn y gorffennol.
Ers i'r cynllun ddechrau ym mis Ebrill 2015, mae cARTrefu wedi darparu dros 1,000 o weithdai celf mewn 120 o gartrefi gofal ledled Cymru.
'Newid bywydau'
Dywedodd Iwan Rhys Roberts o Age Cymru bod gweithgareddau creadigol yn gallu newid bywydau pobl hŷn.
"Gyda'r boblogaeth sydd ganddon ni yn heneiddio, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n darparu cyfleoedd fel hyn," meddai.
"Mae gwneud pethau creadigol, yn beintio neu ddawnsio neu beth bynnag, yn gallu newid bywydau pobl, mae'n gallu 'neud pobl yn hapusach a rhoi mwy o hyder iddyn nhw."
Yn ogystal â gwella ansawdd bywyd trigolion, mae'r cynllun hefyd yn anelu at feithrin gwell gwerthfawrogiad o'r celfyddydau ymysg staff y cartrefi gofal, wrth i artistiaid gyflwyno sgiliau newydd i'r staff fel eu bod yn gallu eu hymarfer yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Mae'r cyhoeddiad yn cyd-fynd â chynhadledd arbennig sydd wedi ei threfnu ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Age Cymru a Sefydliad Baring yng Nghaerdydd ddydd Iau, lle fydd cARTrefu yn un o nifer o brosiectau fydd yn cael sylw.
Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae cymryd rhan yn y celfyddydau yn ychwanegu at ansawdd bywyd bob dydd, a lles ein cenedl.
"Bydd y penwythnos arbennig yn cynnig cyfleoedd unigryw i ddathlu creadigrwydd a dychymyg pobl mewn cymunedau ar draws y wlad ac yn ysbrydoli mwy o bobl i fod yn greadigol."
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, y "gall celf chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol ymysg pobl hŷn, ac yn ei dro gwella lles cymunedau ledled Cymru".