"Cerddor wrth reddf"
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o deyrngedau wedi eu rhoi i'r actor a'r cerddor Dafydd Dafis ers iddo gael ei ddarganfod yn farw nos Lun 3 Ebrill.
Roedd yn wyneb cyfarwydd mewn sawl cyfres ddrama ar S4C gan gynnwys Pen Talar a Rownd a Rownd a bu hefyd yn aelod o fand Steve Eaves.
Mae Steve wedi llunio'r erthygl hon i Cymru Fyw yn deyrnged i'w gyfaill agos:
Pwy all ddeall y cwlwm cariad sy'n cael ei greu, a'i dynhau heb inni sylwi, wrth i gerddorion ymroi i greu cân, i fynegi rhywbeth i'w rannu efo gwrandawyr?
Grymoedd anweledig, anesboniadwy sydd ar waith a rhaid diolch yn wylaidd am y fraint a'r profiad.
Mi wn fod hyn yn wir am bobl greadigol yn gyffredinol, ac nid y gymuned gerddorion Cymraeg yn unig fydd yr unig rai sy'n drwm eu calonnau o golli Dafydd Dafis.
Gall eraill dalu teyrnged i'w ddoniau fel actor a chyflwynydd, ond o'm rhan fy hunan, dyma ychydig o eiriau o 'mhrofiad i ohono, i fynegi diolch am yr amser dreuliais i efo Dafydd, y cerddor a'r cyfaill.
Dwi ddim yn cofio pryd yn union y dois i nabod Dafydd gyntaf, ond mae'n debyg mai tua chanol y 1980au oedd o, dipyn cyn iddo ddechrau cyfrannu i waith y band.
Dyna'r cyfnod pan oedd yn dod yn fwy fwy adnabyddus fel actor ar lwyfannau ac ar y teledu.
Ym 1989, pan oedd y band a minnau'n recordio'r albwm Sbectol Dywyll yn stiwdio'r diweddar Les Morrison ym Methesda, awgrymodd Les y byddai Dafydd yn un da i chwarae sacsoffon ar rai o draciau'r albwm.
A dyna pryd daeth Dafydd atom ni i roi cynnig arni, a buan iawn daeth yn gyfrannwr allweddol a daethon ni'n ffrindiau go iawn.
'Dyfnder meddylgar i'w bersonoliaeth'
Roedd yn berson annwyl, bonheddig a deallus iawn, a rhyw fymryn o swildod yn perthyn iddo fo ar y dechrau.
Y cof sydd gan fy mhlant hynaf, Lleuwen a Manon, o ddod i'w nabod yn y cyfnod hwnnw pan oedden nhw'n genod bach, yw y byddai Dafydd bob amser yn siarad yn glên a charedig wrthyn nhw, dangos diddordeb yn eu hymateb, a gwenu llawer wrth sgwrsio â nhw.
Wrth ddod i'w nabod yn well gwelais ochr arall iddo hefyd - sef bod yna ddyfnder meddylgar i'w bersonoliaeth, ac o dro i dro byddai'n fwy tawedog a gallwn synhwyro fod o braidd yn isel ei ysbryd weithiau.
Yn y stiwdio, roedd yn amlwg yn syth fod Dafydd yn gerddor wrth reddf.
Un o'i gyfraniadau cyntaf yn Stiwdio Les oedd chwarae sacsoffon ar y gân Ffoaduriaid - ac roedd hwnnw'n berfformiad disglair, teimladwy a dreiddiodd dan groen y gân.
Roedd yn gyflwyniad gwych inni fel band i allu Dafydd fel cerddor, a'i sensitifrwydd i neges a theimlad y gân.
Ac yn y blynyddoedd dilynol mi gyfrannodd gymaint at ein recordiau a'n perfformiadau ar lwyfannau - nid yn unig fel sacsoffonydd ond hefyd fel canwr.
Roedd ei gyd-ganu efo Jackie Williams yn iasol yn aml iawn. Roedd hwnnw'n gyfnod hapus yn ei hanes dwi'n meddwl.
Roedd rhyw agosatrwydd rhwng y criw ohonom aeth ar daith i hywyddo'r albwm Croendenau (1992) ac roedd Dafydd wrth ei fodd yn cyd-berfformio yng nghwmni hwyliog Jackie, Iwan Llwyd, Les Morrison, Pwyll ap Siôn, Elwyn Williams, Richard Wyn Jones a minnau.
At hynny, daeth Dafydd a Pwyll ap Siôn yn ffrindiau mynwesol, gan recordio albwm efo'i gilydd fel deuawd rai blynyddoedd yn ddiweddarach.
Fel sacsoffonydd, roedd yn drawiadol fod 'na gymaint o fynegiant yn ei chwarae. Roedd ei sacsoffon weithiau fel llais arall - llais di-eiriau oedd yn gallu mynegi cariad, dirgelwch, hiraeth, llawenydd.
Gallaf glywed y 'llais' ysbrydoledig hwnnw yn ei berfformiad ar draciau fel Grymoedd Anweledig, Rhywbeth Amdani, Troednoeth yn y Sgwat, Tywydd Garw a Ffoaduriaid, i enwi ond ychydig.
'Cymaint o wir botensial'
Oherwydd ei fod yn ganwr mor alluog, a'i lais mor swynol, câi lawer o gynigion i ganu deunydd mwy 'canol-y-ffordd' ar lwyfannau ac ar y teledu, a byddai'n rhaid iddo wneud hynny er mwyn ennill bywoliaeth.
Ond jazz oedd hoff gerddoriaeth Dafydd, a byddwn wrth fy modd yn trafod gwaith gwahanol gerddorion jazz efo fo, gan ddysgu llawer ganddo yn y fargen.
Dysgodd imi wrando o'r newydd ar waith Miles Davies, er enghraifft, a oedd yn dipyn o eilun cerddorol iddo.
Cofiaf gymaint ddaru o wirioni ar y cyfle i gyflwyno darllediadau o Ŵyl Jazz Aberhonddu ar S4C, a chyfarfod rhai o fawrion cyfoes y byd jazz.
Mae'n drist na chafodd Dafydd ei hun gyfle i recordio albwm jazz yn ystod ei oes fer.
Mae uchafbwyntiau ei waith recordio yn dangos cymaint o wir botensial oedd ganddo fel cerddor mentrus a dychmygus.
Y tro diwethaf imi weld Dafydd oedd ar y stryd ym Mangor rai misoedd yn ôl. Roeddwn i heb ei weld ers tro byd cyn hynny, a dyma ni'n cofleidio'n syth a chael sgwrs gynnes, braf, a barodd am fwy na hanner awr.
Holais a fyddai ganddo ddiddordeb mewn chwarae sax mewn ambell gig ac ar rai traciau newydd, ac mi oleuodd ei wyneb wrth ymateb yn frwd a holi mwy am y caneuon.
Ac ar ddiwedd y sgwrs, dyma ni'n cofleidio'n gynnes eto cyn ffarwelio. A dyna fo. Wela'i mono fo eto, ac mae'r byd yn le ychydig yn dristach i mi, ac i lawer o'i gyfeillion, oherwydd hynny.
Diolch o galon iti Dafydd am ymuno â ni ar yr hen daith rhyfedd yma, yn gyd-deithiwr mor annwyl.