Galw am gynllun dychwelyd poteli i leihau sbwriel

  • Cyhoeddwyd
potel ar draethFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae galwadau wedi cael eu gwneud o'r newydd gan elusen amgylcheddol i gyflwyno cynllun dychwelyd poteli yng Nghymru.

Dywedodd y Gymdeithas Cadwraeth Forol (MCS) bod ffigyrau'n dangos "cynnydd cyson" yn nifer y caeadau a photeli gwydr sy'n cael eu canfod ar draethau Cymru dros y pum mlynedd diwethaf.

Yn y gorffennol mae ymgyrchwyr wedi galw am gyflwyno cynllun ble byddai'n rhaid i siopwyr dalu blaendal wrth brynu caniau a photeli, gyda'r arian yn cael ei ad-dalu pan fyddan nhw'n cael eu dychwelyd yn wag.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n comisiynu astudiaeth yn ystyried manteision cynllun poteli o'r fath.

Astudiaeth

Mae MCS wedi sefydlu deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cynllun ar gyfer poteli, ac yn dweud bod ymgyrch debyg yn yr Alban wedi denu cefnogaeth gwleidyddion yn ogystal â chwmni Coca-Cola.

"Mae cynlluniau dychwelyd blaendal wedi cynyddu lefelau ailgylchu safon uchel i dros 90% mewn rhannau eraill o'r byd, a lleihau sbwriel," meddai Dr Sue Kinsey, arbenigwr technegol gydag MCS.

"Dychmygwch hynny yng Nghymru. Hefyd, petai bocsys prydau parod yng Nghymru i gyd yn rai allai gompostio'n llawn, byddai hynny'n cael effaith bositif tu hwnt ar lefel y sbwriel ar draethau Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r ymchwil maen nhw wedi ei gomisiynu yn edrych ar becynnu bwyd a diod yng Nghymru, yn ogystal â manteision posib cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer poteli.

"Bydd yr astudiaeth yn canfod ac yn canolbwyntio ar y gwastraff sydd yn cael yr effaith amgylcheddol fwyaf," meddai'r llefarydd.