13,000 yn goryrru mewn chwe mis ar yr M4 ger Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Camerau

Mae dros 13,000 o bobl wedi cael eu dal yn goryrru ar yr M4 ger Casnewydd ers i reolau gorfodaeth newydd ddod i rym chwe mis yn ôl

Mae'r cyfyngiad cyflymder amrywiol mewn grym rhwng cyffordd 24 (Coldra) a chyffordd 28 (Parc Tredegar).

Ar gyfartaledd, cafodd 84 o yrwyr eu dal yn gyrru'n rhy gyflym bob diwrnod rhwng mis Medi a diwedd Chwefror.

Cafodd y system ei chyflwyno yn 2011 ond ni chafodd ei defnyddio ar y rhan yma o'r ffordd am bum mlynedd.

Mae dirwyon wedi eu cyflwyno ers 10 Hydref y llynedd.

Mae modd i yrwyr gael eu cosbi am oryrru, yn dibynnu ar beth yw'r cyfyngiad amrywiol ar y pryd - gall fod rhwng 20mya a 70mya.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod y cynllun yn ei ddyddiau cynnar o ran mesur llwyddiant y system, mae'n galonogol fod cynnydd yn nifer y rhai sy'n cydymffurfio gyda'r cyfyngiadau, gan alluogi'r system i weithio fel ag y mae i fod i wneud."

Dywedodd Chris Hume, rheolwr partneriaethau gyda GanBwyll, sydd yn rheoli'r camerau fod nifer y gyrwyr sy'n cael eu dal yn "ganran fechan" o nifer y cerbydau sy'n teithio trwy'r ardal.