Côr Merched Sir Gâr yn ennill cystadleuaeth Côr Cymru
- Cyhoeddwyd
![Côr Merched Sir Gâr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15A0/production/_95563550_f255929e-56ce-4a14-9c8a-d19d1d8cc5e4.jpg)
Côr Merched Sir Gâr yw enillwyr Côr Cymru 2017
Côr Merched Sir Gâr yw Côr Cymru 2017 wedi iddynt drechu pedwar côr arall yn y rownd derfynol nos Sul.
Wedi wythnosau o gystadlu brwd roedd pump côr wedi cyrraedd y rownd derfynol - Côr Ieuenctid Môn yng nghategori'r plant; Côr Merched Sir Gâr yng nghategori y corau ieuenctid; Côr Meibion Machynlleth yng nghategori y corau meibion; Ysgol Gerdd Ceredigion yng nghategori y corau merched a Côrdydd, enillydd categori y corau cymysg.
Cafodd y gystadleuaeth, sy'n digwydd bob dwy flynedd, ei chynnal nos Sul yn Aberystwyth.
![Beirniaid Côr Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16FAE/production/_95562149_75cfa17f-3299-4039-b630-64f0e8da9180.jpg)
Yn ôl y tri beirniad roedd y gystadleuaeth eleni o safon hynod o uchel
Yn ôl y beirniaid Christopher Tin, y cyfansoddwr ac enillydd dwy Grammy, María Guinand o Fenweswela a'r Athro Edward Higginbottom o Brifysgol Rhydychen, roedd y safon eleni yn hynod o uchel.
Roedd gan bob côr ei rhaglen gerddorol unigol ar gyfer y gystadleuaeth, ond eleni am y tro cyntaf bu'r corau yn cyd-ganu cân o waith un o feirniaid y gystadleuaeth sef Christopher Tin o Galiffornia: 'Adain Cân'.
Cafodd y geiriau eu hysgrifennu yn Gymraeg, Sbaeneg, Almaeneg a Saesneg, gan y Prifardd Mererid Hopwood.
![Côr Meibion Machynlleth](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/854E/production/_95562143_349aa4e0-6ec3-42ad-a7ff-48569aa8c66c.jpg)
Côr Meibion Machynlleth - nifer ohonynt yn ffermwyr ac mae'n dymor ŵyna!
![Un o'r beirniaid Christopher Tin yn arwain y pum côr wrth iddynt ganu 'Adain Cân'](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/118EC/production/_95561917_iest.jpg)
Un o'r beirniaid Christopher Tin a chyfansoddwr 'Adain Cân' yn arwain y pum côr
Roedd pob côr wedi dewis darnau hynod o amrywiol a rhyngwladol.
Côr Merched Sir Gâr oedd y cyntaf i ganu a'u dewis o ddarnau yn y rownd derfynol oedd 'Waltz' - Novello, 'Il est bel et bon' gan Pierre Passereau, 'Turot eszik a cigany' gan y cyfansoddwr Hwngaraidd Kodaly, 'Beth yw'r haf i mi?' a medli o ganeuon gospel.
Dewis Côr Meibion Machynlleth oedd 'Heriwn, wynebwn y wawr' gan Gareth Glyn, 'Beati mortui' - Mendelssohn, 'Joshua' a 'Gwinllan a roddwyd' (trefniant Caradog Williams).
![Côr Ieuenctid Môn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/372E/production/_95562141_bfca8d8b-5c60-498d-91f0-8f4d08ab032c.jpg)
Côr Ieuenctid Môn yn cystadlu am y pumed tro a nhw oedd dewis y gwylwyr
![Côrdydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1218E/production/_95562147_e17047a2-848c-4711-9d8e-c76d49a311e8.jpg)
Roedd Côrdydd wedi cystadlu eleni am nad oeddynt wedi cystadlu ers sawl blwyddyn
Roedd Côr Ieuenctid Môn yn cystadlu am y pumed tro a'u dewis y tro hwn oedd 'In Paradisum' - Fauré, 'Cân Crwtyn y Gwartheg', 'The Lamb' - John Tavener a 'Rhosyn yr Iôr' (Gareth Glyn, y geiriau gan Siân Owen).
Côrdydd oedd y pedwerydd côr i ymaddangos ar lwyfan y Neuadd Fawr a'u dewis nhw oedd 'Benedicamus Domino' - Peter Warlock, 'Heilig' - Mendelssohn, Alleluia - Jake Runestad, 'Gwrando 'ngweddi, O Dduw' - Purcell a 'Don't let the sun go down on me' (trefniant o gân Elton John).
Côr Ysgol Gerdd Ceredigion oedd y côr olaf i ymddangos - a hwn oedd yr ail gôr i Islwyn Evans arwain ar y llwyfan gan mai ef hefyd oedd yn arwain Côr Merched Sir Gâr.
![Islwyn Evans](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17148/production/_95563549_islwynevans.jpg)
Islwyn Evans yw arweinydd y côr buddugol ac arweinydd côr Ysgol Gerdd Ceredigion
Fe ddewison nhw hefyd ddarn gan Gareth Glyn sef 'Henffych Datws' (y geiriau gan Gwyn Thomas). Y tri darn arall oedd 'Ave Maria' - Franz Biebl, 'Ukuthula' o Dde Affrica a 'Pseudo Yoik Lite' gan Jaakko Mäntyjärvi o'r Ffindir.
Roedd 'na wobr yn ogystal i'r arweinydd gorau ac fe aeth y wobr honno i Eilir Owen Griffiths, arweinydd CF1 a fu'n cystadlu yng nghategori y corau cymysg.
Dewis y gwylwyr
Roedd gan y gynulleidfa hefyd gyfle i bleidleisio am eu hoff gôr a'u dewis eleni oedd Côr Ieuenctid Môn. Côr Meibion Machynlleth oedd yn ail a ffefryn y beirniaid, Côr Merched Sir Gâr, yn drydydd.
Nos Sadwrn fe gipiodd Côr Ysgol Pen Barras o Rhuthun y teitl Côr Cynradd Cymru 2017.
Yn ogystal ag ennill cyfanswm o £5,000 bydd enillwyr Côr Cymru eleni yn cael cynnig mynd i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision 2017.
Dyma'r flwyddyn gyntaf i Eurovision gynnig y math yma o gystadleuaeth a bydd yn cael ei chynnal yn Latfia.
Bydd y noson yn cael ei harwain gan y cyfansoddwr a'r arweinydd corawl byd-enwog Eric Whitacre ac ymysg y beirniaid bydd y cyfansoddwr corawl John Rutter a'r soprano Elina Garanca.
Bydd Côr Merched Sir Gâr yn ymddangos gyda'r goreuon o Awstria, Gwlad Belg, Denmarc, Estonia, Yr Almaen, Hwngari, Slofenia a Latfia.
![Côr Ysgol Pen Barras oedd enillydd Côr Cymru Cynradd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/93E0/production/_95565873__95555003_7c1e302f-d657-4974-bee2-d5f80c9d8225-1.jpg)
Côr Ysgol Pen Barras oedd enillydd Côr Cymru Cynradd
Dywedodd Hefin Owen, Uwch gynhyrchydd Côr Cymru: "Dyma ddatblygiad pwysig iawn o ran cystadleuaeth Côr Cymru ac mae'n gyfle gwych i'r côr buddugol a Chymru fedru serennu ar lwyfan Ewropeaidd.
"Mae'n gyfle gwych hefyd i gynulleidfa S4C fwynhau gwledd o ganu gan rai o gorau mwyaf safonol Ewrop."
Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C: "Mae S4C yn hynod o falch o ddarlledu'r gystadleuaeth Eurovision yma ac o'r ffaith y bydd cynrychiolaeth o Gymru yno.
"Mae'n gam naturiol yn esblygiad y gyfres boblogaidd Côr Cymru ac yn gyfle gwych i arddangos ein talentau corawl ar lwyfan Ewropeaidd."
Yn ôl Caryl Parry Jones, a oedd nos Sul yn sedd y sylwebydd: "Mae'r safon drwy gydol y gystadleuaeth wedi bod yn anhygoel o uchel ond roedd heno yn ddyrchafol."