Lluniau: Côr Cymru 2017
- Cyhoeddwyd

Mae'r llwyfan yn barod...
Llongyfarchiadau i Gôr Merched Sir Gâr ar ennill Côr Cymru 2017. Roedd o'n ddiwrnod cofiadwy i'r corau i gyd gyrhaeddodd y rownd derfynol yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberstwyth ar 9 Ebrill. Dyma rai o uchafbwyntiau'r diwrnod brwd o gystadlu trwy lens Iestyn Hughes, ffotograffydd Cymru Fyw:


Mae 'na lot o waith paratoi ar gyfer y gystadleuaeth

Rhai o'r cefnogwyr yn wên o glust i glust

Oedd hyn yn syniad da? Yr arweinydd Christopher Tin yn ceisio cael trefn ar y côr cyfansawdd

"Gobeithio y cawn ni wledd o ganu"

Barod am noson dda o gystadlu

Côr Ieuenctid Môn yn dathlu

Gwaith sychedig yw'r canu 'ma i Gôr Machynlleth

...ond coffi sy'n cadw bechgyn Côrdydd i fynd!

"Beth mae'r beirniaid 'ma yn ddweud amdanom ni?"

Mae cenedlaethau o fyfyrwyr Aber wedi cael tynnu eu lluniau ar y grisiau yma ond tro cantorion Môn yw hi heddiw

Heledd Cynwal, cyflwynydd Côr Cymru gyda'r sylwebydd craff Caryl Parry Jones

Mae'r cyntedd wedi ei droi yn stiwdio deledu dros dro

"Ry'n ni wedi ennill!" Côr Merched Sir Gâr ar ben eu digon

Christopher Tin yn cael llun gyda'r côr buddugol

Islwyn Evans, arweinydd balch Côr Merched Sir Gâr