Gwobr Olivier i Rebecca Trehearn am ei rhan yn Show Boat
- Cyhoeddwyd

Roedd y Gymraes, Rebecca Trehearn, ymhlith enillwyr Gwobrau Olivier nos Sul.
Cafodd y perfformiwr o'r Rhyl ei gwobrwyo yng nghategori'r Actores Orau mewn Rôl Gefnogol mewn Sioe Gerdd am ei rhan yn Show Boat.
Gwobrau Olivier yw prif wobrau byd y sioeau cerdd a'r theatrau yn y DU.
Yn y blynyddoedd diweddar, mae Ms Trehearn wedi perfformio ar lwyfannau'r West End mewn sioeau fel Diary of a Teenage Girl, Floyd Collins a City of Angels.
Mae hi hefyd wedi ymddangos ar y teledu, gan gynnwys yn nrama Dim ond y Gwir ar S4C.
Ms Trehearn oedd enillydd cystadleuaeth Wawffactor 'nôl yn 2005.