Angen 'cofrestr i amddiffyn anifeiliaid' medd yr RSPCA
- Cyhoeddwyd
Mae elusen wedi galw am sefydlu cofrestr er mwyn cofnodi enwau pobl sydd wedi cyflawni troseddau yn erbyn anifeiliaid, yn dilyn beirniadaeth nad oes ffordd glir o orfodi gwaharddiad ar y troseddwyr.
Mae'r RSPCA yn dweud bod 11 o bobl wedi eu herlyn am beidio cadw at eu gwaharddiad yn y tair blynedd ddiwethaf.
Ond maen nhw'n pryderu y gallai'r ffigwr fod yn llawer uwch.
Yn ôl yr elusen gallai cofrestr ganiatáu i berchnogion siopau anifeiliaid a chanolfannau ail gartrefu anifeiliaid weld beth yw cefndir person sydd eisiau prynu anifail.
Pryder
Mae Llywodraeth San Steffan yn dweud bod yna system gofnodi yn bodoli yn barod gan yr heddlu, ac y gall unigolyn ofyn i swyddog i wirio os ydyn nhw'n pryderu.
Maen nhw hefyd yn pryderu y gallai cofrestr agored "annog pobl i gymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain".
Mae'r RSPCA yn dweud bod 228 o bobl wedi eu herlyn yng Nghymru am droseddau yn erbyn anifeiliaid ers 2013.
Ond mae'n rhaid i'r cyhoedd fod yn ymwybodol bod y troseddwr wedi eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid yn y lle cyntaf, ac yna rhoi gwybod i'r elusen am y mater.
Byddai cofrestr yn ffordd effeithiol o wneud i bobl feddwl ddwywaith cyn troseddu ac yn atal dioddefaint anifeiliaid, meddai'r mudiad.
Ym mis Ionawr cafodd Frank Lewis, 18 oed o Groeserw ger Port Talbot ei ddedfrydu am ddwyn cathod o warchodfa er mwyn i'w gŵn allu eu hela a'u lladd.
Roedd wedi dwyn yr anifeiliaid o warchodfa Tŷ Nant.
San Steffan
Yn ôl yr Aelod Seneddol lleol Stephen Kinnock, mae angen gwneud yn siŵr nad yw pobl fel Frank Lewis yn troseddu yn erbyn anifeiliaid eto.
Mae wedi gofyn cwestiwn ysgrifenedig i'r adran berthnasol o fewn llywodraeth y Deyrnas Unedig am y mater.
"Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd eto. Mae'n rhaid bod 'na ffordd o wneud hyn, bod gyda chi gofrestr ond eich bod chi ddim yn torri'r gyfraith diogelu data."
Mae'r RSPCA yn dweud bod yna dystiolaeth o'r UDA sydd yn awgrymu bod cysylltiad rhwng troseddwyr sydd yn cam-drin anifeiliaid ac yna yn troseddu yn erbyn pobl, mater sydd hefyd yn pryderu Mr Kinnock.
"Oherwydd hynny fe fyddai'n beth da o safbwynt atal trosedd i gadw cofrestr fel eich bod chi'n gallu bod yn llym ynglŷn â chosbi pobl sydd yn troseddu yn erbyn anifeiliaid, a hefyd cadw golwg arnyn nhw rhag ofn eu bod nhw'n troseddu yn erbyn pobl," meddai.
Mae galwadau hefyd wedi bod i gael cofrestr yng Nghymru gan yr AC Plaid Cymru, Bethan Jenkins.
Dywedodd llefarydd ar ran adran amgylchedd, bwyd a materion gwledig Llywodraeth y DU bod yr heddlu yn cadw cofnod o droseddwyr trwy system gyfrifiadurol genedlaethol, ond bod angen gwneud "gwell defnydd o'r gronfa ddata" a rhannu gwybodaeth yn well.
Mae'r llefarydd hefyd yn dweud bod modd i berson ofyn i'r heddlu os oes ydynt yn poeni, a bod yr heddlu yn gallu edrych ar y system i weld os yw'r unigolyn wedi cyflawni troseddau yn erbyn anifeiliaid.