Ryan a'i ddoniau

  • Cyhoeddwyd
Ryan a Ronnie yn perfformio yn ystod sioe Cinderella (1972/73)
Disgrifiad o’r llun,

Ryan a Ronnie yn perfformio ym mhantomeim Cinderella yn Theatr y Grand yn 1972

Ddeugain mlynedd yn ôl i'r wythnos hon daeth y chwerthin i ben gyda'r cyhoeddiad am farwolaeth yr amryddawn Ryan Davies. Dim ond 40 oed oedd y digrifwr, canwr a'r actor poblogaidd pan gafodd ei daro yn wael tra ar wyliau yn yr Unol Daleithiau.

Un fu'n perfformio'n rheolaidd gyda'r gŵr o Lanaman yn ystod oes aur adloniant ysgafn yn y Gymraeg oedd y gantores Mari Griffith. Bu'n rhannu ei hatgofion am ei chyfaill gyda Cymru Fyw:

Rwy'n cofio ble ro'n i pan glywais i'r newyddion ei fod e wedi marw. Ro'n i yn y tŷ gwydr ac roedd e'n gymaint o sioc.

Roedd Ryan yn foi a oedd yn gweithio yn arbennig o galed. Rwy'n credu ei fod e wastad yn meddwl bod hyn yn rhywbeth a fyddai'n dod i ben unrhyw ddydd.

Fe wnes i bob math o raglenni 'da fe, adloniant ysgafn, rhaglenni plant ac i ysgolion - roedd adran ysgolion brysur iawn ganddom ni yn BBC Cymru ar y pryd.

Yn niwedd y 60au, roeddem ni'n dau, ynghyd ag Hywel Gwynfryn, Margaret Williams, Olwen Rees a cwpl o rai eraill wedi cael ein rhoi ar gytundeb gan Meredydd Evans, y pennaeth adloniant ysgafn.

Roedd y cytundebau 'ma'n golygu ein bod ni'n gweithio drwy'r amser. Dwi'n cofio rhyw fore Sadwrn pan ro'dd Ryan yn cyflwyno Good Morning Wales ar Radio Wales am saith o'r gloch.

Wedi i'r rhaglen orffen roedd e'n mynd i'r cantîn i gael brecwast, wedyn bydde fe'n ymuno 'da fi a chwpl o bobl eraill yn y stiwdio am 9.30 i wneud rhaglenni ysgolion tan amser cinio. Yna yn y prynhawn bydde'n mynd gartref am 'chydig, ac yna gyda'r nos bydde fe'n perfformio yng nghlwb y Double Diamond yng Nghaerdydd a ddim yn cwpla tan ddau o'r gloch y bore.

Disgrifiad o’r llun,

Ryan Davies, Mari Griffith a Norman Rossington ar y rhaglen 'Poems and Pints'

'Perfformiwr naturiol'

Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw ddigrifwr sydd cweit y person y mae e gartre' pan mae e mas yn rhywle fel y dafarn. Roedd 'na wastad rhyw elfen o berfformio 'na - ond mewn ffordd hollol naturiol a hollol neis ac agos ato' chi.

Roe'n ni'n nabod teuluoedd ein gilydd, a gan fod ei fodryb e, Anti Muriel, yn byw yn Maesteg o'n i'n nabod y rhan yna o'r teulu - felly roedd y cefndir yna ganddom ni.

Ro'dd fy chwaer yn delynores, ac wedi iddi ennill y Premier Prix yn y conservatoire ym Mharis aeth hi i fyw yn Llundain. Fues i yn byw gyda hi pan oedd hi'n gweithio yn Covent Garden. Roedd ganddom ni fflat a oedd yn rhan o gartre'r llenor Caradog Prichard a'i wraig Mattie.

Gyda'r nos roedden i'n mynd i Glwb Cymry Llundain. Ro'dd Ryan yn mynd yn rheolaidd gyda'i ffrindiau fel Rhydderch Jones, Gwenlyn Parry, David a Bryn Richards. Dwi'n cofio Ryan, Rhydderch ac Ann fy chwaer yn recordio EP efo'u gilydd a oedd yn hyfryd iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Yn y gyfres hynod boblogaidd 'Fo a Fe' ar ddechrau'r 1970au, gyda Guto Roberts

Llwyddo ar lwyfan mwy

Dwi'n credu bod Ryan ar y brig pan ath e, dyna oedd y drasiedi. Dwi ddim yn gwybod i ble oedd e am fynd o ble roedd e.

Yn nechrau'r 70au fe wnaeth Ryan a Ronnie ddwy gyfres i'r rhwydwaith. Dwi'n cofio eistedd lawr a meddwl na fyddai cynulleidfa Seisnig yn 'cael' hyn o gwbl, gan fod gymaint o'u comedi nhw yn gomedi Cymreig, felly do'n i ddim yn siwr sut bydde cynulleidfa ehangach yn ymateb. Ond ro'dd pawb wedi dwlu arnyn nhw ac roedden nhw'n boblogaidd iawn.

Ond tua'r adeg yna oedd Ronnie efallai'n dechrau meddwl, fel mae y bois sy'n feed mewn partneriaeth gomedi, mai y boi arall oedd yn cael y clod mawr a'r parch i gyd. Aeth Ronnie 'nôl i'r BBC fel cyhoeddwr, a phan es i nôl i'r BBC fel cyhoeddwraig roedd e'n arbennig o ffeind tuag atai ac roeddwn i'n hoff iawn ohono.

Disgrifiad o’r llun,

Max Boyce, Ryan Davies, Mari Griffith a'r actor Philip Madoc

'Ymhlith y gorau'

Roedd Ryan yn foi dawnus iawn wrth gwrs, a dwi wastad yn ei gofio fe yn gwneud meim, ac roedd teledu yn gyfrwng arbennig ar gyfer hynny.

Mi fues i mewn drama efo fe a Ronnie cyn i'r ddau weithio efo'i gilydd, ac mewn rhaglenni plant di-ri fel 'Helo na' ac 'Ar lin Mam'.

Fel perfformiwr roedd e ymhlith y gorau mae Cymru wedi eu cael, am ei fod mor amryddawn ac roedd ganddo lais tenor arbennig o dda.

Dwi'n cofio unwaith roeddwn i'n canu Are you going to Scarborough Fair, trefniant Simon and Garfunkel ac fe benderfynodd Ryan ei fod am ganu yr ail lais - ac mi wnaeth yn wych, yr harmoni a phopeth i'r dim.

Roedd e'n gallu canu'r delyn a'r piano hefyd, a throi ei law at bron unrhywbeth. Roedd e'n artist.

Disgrifiad o’r llun,

Ryan ar set y ffilm Under Milk Wood gyda Richard Burton yn Ninbych y Pysgod, 1971