Defnyddio gemau cyfrifiadurol i geisio trin Parkinson's

  • Cyhoeddwyd
Aaron Pritchard, Dr Charles Leek a Dr Rudi CoetzerFfynhonnell y llun, Eye Imagery
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Pritchard o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda Dr Charles Leek a Dr Rudi Coetzer o Brifysgol Bangor

Gallai ymchwil i'r ffordd mae gemau cyfrifiadurol yn sbarduno'r ymennydd gael ei ddefnyddio i helpu trin afiechyd Parkinson's.

Fe wnaeth y tîm o Brifysgol Bangor edrych ar sut oedd gemau "gofod deallus" ble roedd rhaid cyffwrdd y sgrin yn effeithio ar y rhan o'r ymennydd sydd yn rheoli symudiad.

Mae ymchwil cychwynnol gyda 16 o bobl sydd â Parkinson's wedi dangos y gallai sbarduno rhannau o'r ymennydd a gwella gweithgaredd motor.

Bydd y tîm o Ysgol Seicoleg y brifysgol, sydd wedi bod yn gweithio a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Chanolfan Walton yn Lerpwl, nawr yn cael £33,000 ar gyfer ail astudiaeth.

'Potensial'

Mae Parkinson's yn afiechyd dirywiol ar y system nerfau sydd yn gallu achosi anystwythder yn y cyhyrau, cryndod, cydbwysedd gwael a symudiad araf.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys gofyn i bobl gyflawni tasgau fel defnyddio delweddau yn y meddwl i ad-drefnu siapiau er mwyn ffitio gofod go iawn.

Dywedodd Dr Charles Leek, athro mewn niwrowyddoniaeth gwybyddol yn y brifysgol, mai'r gobaith oedd cael rhannau o'r ymennydd i "weithio yn fwy effeithlon".

Ychwanegodd Claire Bale o Parkinson's UK eu bod yn "awyddus i weld beth yw potensial technolegau newydd, megis hyfforddi'r ymennydd, i wella symptomau'r cyflwr".