Pryder bod troseddau casineb yn cael eu 'normaleiddio'
- Cyhoeddwyd
Mae merched Mwslimaidd yng Nghaerdydd yn cael cynnig dosbarthiadau hunanamddiffyn yn dilyn pryderon bod Islamoffobia wedi cael ei "normaleiddio" yn dilyn Brexit.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos y bu cynnydd yn nifer y troseddau casineb gafodd eu hadrodd i Heddlu De Cymru yn dilyn y bleidlais.
Mae campfa yn ardal Treganna nawr yn cynnig dosbarthiadau hunanamddiffyn, yn canolbwyntio ar ymosodiadau ar ferched Mwslimaidd.
Dywedodd Heddlu De Cymru nad yw troseddau casineb "fyth yn dderbyniol".
Mae ffigyrau diweddaraf Heddlu'r De yn dangos bod 2,466 o droseddau casineb wedi cael eu hadrodd i'r llu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd hyn yn cynnwys cynnydd ym mis Gorffennaf 2016 - y mis ar ôl y refferendwm - ond mae wedi parhau i ostwng ers hynny.
'Ddim yn dderbyniol'
Mae Cyngor Mwslimaidd Cymru yn honni bod nifer y troseddau yn llawer uwch mewn gwirionedd, ac nad yw rhai merched yn eu hadrodd i'r heddlu am eu bod yn ystyried troseddau casineb yn rhan o'u bywyd pob dydd.
Dywedodd cyfarwyddwr prosiectau'r cyngor, Mohammed Alamgir bod ymosodiadau hijab - pan fo sgarffiau pen yn cael eu tynnu oddi ar ferched - yn broblem, yn enwedig yng Nghaerdydd.
"Mae bellach yn rhan arferol o fywydau merched Mwslimaidd, i wynebu ymosodiadau a chael eu bychanu," meddai Mr Alamgir.
"Dyw hyn ddim yn dderbyniol. Mae hon yn wlad i ni hefyd, dylai hyn ddim digwydd yn ein dinas."
Penderfynodd campfa Haya Fitness ddechrau'r dosbarthiadau hunanamddiffyn ar ôl clywed gan ferched oedd yn ofni gadael y tŷ wedi iddi dywyllu.
Mae'r dosbarthiadau yn dysgu merched sut i adrodd ymosodiadau casineb a sut i ddelio gydag ymosodiadau corfforol.
Dywedodd Heddlu'r De nad yw unrhyw fath o droseddau casineb "fyth yn dderbyniol", ac y byddai pobl yn cael eu herlyn o'u herwydd.
Ychwanegodd llefarydd: "Rydyn ni'n teimlo, trwy weithredu yn erbyn troseddwyr a chefnogi dioddefwyr, y gallwn ni wneud bywydau'r rheiny sy'n dioddef troseddau casineb yn fwy diogel, amddiffyn eu teuluoedd, cefnogi'r gymuned a'u hatal rhag dioddef digwyddiadau o'r fath eto."