Cwest Llanrwst: 'Fflamau' mewn sychwr dillad
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth dau ddyn o Lanrwst mewn tân yn y dre wedi clywed bod fflamau wedi eu gweld yn dod o sychwr dillad yn eu fflat.
Cafodd Doug McTavish, 39 oed, a Bernard Hender, 19 oed, eu lladd yn y tân ym mis Hydref 2014.
Llwyddodd trydydd dyn, Garry Lloyd Jones i ddianc o'r adeilad.
Roedd y tri dyn yn rhannu fflat uwchben busnes ymgymerwyr Mr Lloyd Jones ar Sgwâr Ancaster.
Roedd e a Mr McTavish hefyd yn rheoli bistro cyfagos ar y cyd.
Fflamau
Ar y noson y dechreuodd y tân, roedd sychwr dillad yn cael ei ddefnyddio i sychu tywelion o'r bwyty.
Tra'n rhoi tystiolaeth i'r cwest, dywedodd Mr Lloyd Jones ei fod wedi sicrhau fod y sychwr wedi ei ddiffodd cyn iddo fynd i'r gwely yn oriau mân y bore, ac iddo sylwi fod y drws yn agored a thywelion ynddo.
Aeth ymlaen i ddweud fod yr ystafell yn llawn mwg pan ddeffrodd am 06:00.
Pan aeth i chwilio am darddiad y mwg, gwelodd fod fflamau'n dod o grombil y sychwr.
Dywedodd ei fod wedi ceisio ddeffro'r dynion eraill, a'i fod wedi llwyddo i ddianc drwy lithro o'r fflat ar ei fol, cyn galw'r gwasanethau brys o ffôn cyhoeddus ar y sgwar.
Mae disgwyl i'r cwest barhau am dri diwrnod.