12 Cymro yng ngharfan y Llewod a Warburton yn gapten

  • Cyhoeddwyd
Sam WFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Warren Gatland wedi dewis 12 Cymro i fod yn rhan o garfan y Llewod fydd yn herio'r Crysau Duon ddechrau'r haf.

Chwaraewr rheng-ôl Cymru, Sam Warburton, fydd capten y Llewod pan fyddan nhw yn dechrau ar eu taith i Seland Newydd ym mis Mehefin.

Fe arweiniodd y Llewod pan gafodd y garfan fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia yn 2013.

Dim ond un chwaraewr arall, cyn flaenwr Lloegr, Martin Johnson, sydd wedi bod yn gapten y Llewod yn ystod dwy daith.

Disgrifiad,

Carfan y Llewod: Ymateb Gareth Charles

Y 12 Cymro yn y garfan yw:

Olwyr: Dan Biggar, Jonathan Davies, Leigh Halfpenny, George North, Rhys Webb, Liam Williams.

Blaenwyr: Taulupe Faletau, Alun Wyn Jones, Ross Moriarty, Ken Owens, Justin Tipuric, Sam Warburton.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rob Howley a Neil Jenkins yn rhan o dîm hyfforddi Warren Gatland

Mae'r garfan hefyd yn cynnwys 16 chwaraewr o Loegr, 11 Gwyddel a dau Albanwr:

Elliot Daly (Lloegr), Owen Farrell (Lloegr), Robbie Henshaw (Iwerddon), Stuart Hogg (Yr Alban), Jonathan Joseph (Lloegr), Conor Murray (Iwerddon), Jack Nowell (Lloegr), Jared Payne (Iwerddon), Jonathan Sexton (Iwerddon), Tommy Seymour (Yr Alban), Ben T'eo (Lloegr), Anthony Watson (Lloegr), Ben Youngs (Lloegr), Rory Best (Iwerddon), Dan Cole (Lloegr), Tadhg Furlong (Iwerddon), Jamie George (Lloegr), Iain Henderson (Iwerddon), Maro Itoje (Lloegr), George Kruis (Lloegr), Courtney Lawes (Lloegr), Joe Marler (Lloegr), Jack McGrath (Iwerddon), Sean O'Brien (Iwerddon), Peter O'Mahony (Iwerddon), Kyle Sinckler (Lloegr), CJ Stander (Iwerddon), Mako Vunipola (Lleogr), Billy Vunipola (Lloegr).

Mae'r daith yn dechrau ar 3 Mehefin ac yn para tan y gêm brawf olaf ar 8 Gorffennaf.